Western Mail

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r Western Mail yn bapur newydd beunyddiol yn yr iaith Saesneg a gyhoeddir gan y cwmni Western Mail and Echo Ltd yn Nghaerdydd. Fe'i sefydlwyd yn 1869. Mae'n disgrifio ei hun fel "papur cenedlaethol Cymru". Cawsai ei gyhoeddi yn fformat argrafflen hyd 2004, pan newidiodd i fformat compact.

Yn ogystal â newyddion Cymru a gwledydd eraill Prydain a rhywfaint o newyddion tramor, mae'r papur yn rhoi llawer o le i newyddion rygbi, pêl-droed ac athletau Cymreig.

Yn hanesyddol, yr oedd cysylltiad cryf rhwng y Western Mail a'i berchnogion, meistri'r diwydiant glo a haearn yn ne Cymru. Arweiniai hyn at agwedd lai na diduedd tuag at anghydfod diwydiannol yn y diwydiannau hynny, yn arbennig yn achos streiciau mawr y glowyr, agwedd a gofir hyd heddiw gan rai. Yn ogystal mae wedi dilyn gogwydd digon Prydeinig dros y blynyddoedd, yn arbennig tuag at teulu brenhinol Lloegr a'r mudiad cenedlaethol yng Nghymru.

Yn ddiweddar fodd bynnag, ac yn arbennig ers datganoli a sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mae'r papur wedi mabwysiadu safbwynt mwy poblogaidd, Cymreigaidd.

Ei brif gystadleuydd yn y farchnad Gymreig yw'r Daily Post yn y gogledd. Ers tro byd mae'r Daily Post wedi rhoi'r gorau i gystadlu llawer yn y De â'r Western Mail ac yn canolbwyntio bron yn llwyr ar y Gogledd, ond mae'r Western Mail yn cael ei weld fel papur i Dde Cymru gan nifer o bobl yn y Gogledd o hyd. Mae'n debyg fod rhaniad ffocws daearyddol y ddau bapur yn deillio o'r ffaith eu bod yn rhannu'r un perchennog, sef cwmni Trinity Mirror ccc. Byddai'r cynllun arfaethedig i gyhoeddi papur newydd beunyddiol Cymreig arall yn y dyfodol agos, The Welsh Globe yn cynnyddu'r gystadleuaeth mae'r papur yn ei wynebu.

Prin yw'r defnydd o'r Gymraeg yn y Western Mail. Ar un adeg roedd yr ysgolhaig Bedwyr Lewis Jones yn sgwennu colofn iddo ar eirdarddiad geiriau Cymraeg.

Dolen allanol[golygu]