Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Oddi ar Wicipedia
| Cymru |
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar: |
|
|
|
Cynulliad Cenedlaethol
Cymru o fewn y DU
Cymru o fewn yr UE
Gweithgarwch gwleidyddol
|
|
|
| Cynulliadau | |
|
Ty'r cynulliad Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
|
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r corff datganoledig sy'n trafod polisïau ac yn cymeradwyo deddfwriaeth yn ymwneud â Chymru, ac yn dyrannu'r arian a rennir iddo gan Lywodraeth y DU. Sefydlwyd y Cynulliad ym 1999 ar ôl cynnal refferendwm ym 1997.
Mae 60 o aelodau yn y Cynulliad (Aelod Cynulliad - AC). Mae 40 o'r aelodau yn cynrychioli etholaeth un aelod, ac mae'r 20 sy'n weddill yn cael eu hethol gan gynrychiolaeth gyfrannol dros y pump etholaeth rhanbarthol yng Nghymru.
Mae aelodau yn cael eu hethol am dymor o bedair mlynedd. Cynhaliwyd yr etholiadau diwethaf ym 1999, 2003 a 2007.
Dirprwyir pwerau gweithredol y Cynulliad i Brif Weinidog y Cynulliad. Dirprwya'r Prif Weinidog yn ei dro gyfrifoldeb am gyflawni'r swyddogaethau gweithredol i Weinidogion Llywodraeth Cynulliad Cymru, sy'n ffurfio'r Cabinet. Rheolir gweithgareddau'r Cynulliad gan y Llywydd, sydd ei hun yn Aelod Cynulliad.
Prif gorff ymgynghorol ar gyfer addysg y Cynulliad yw'r Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru.
Cynnwys |
[golygu] Grymoedd
[golygu] Grymoedd deddfu
Cafodd grymoedd i basio mesurau deddfwriaethol o fewn meysydd penodol eu rhoi ar ddechrau'r Trydydd Cynulliad ym mis Mai 2007 dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
[golygu] Aelodau'r Cynulliad
| Plaid | Mai 2007 | Presennol | |
|---|---|---|---|
| • | Llafur | 26 | 26 |
| • | Plaid Cymru | 15 | 15 |
| Y Ceidwadwyr | 12 | 12 | |
| Y Democratiaid Rhyddfrydol | 6 | 6 | |
| Annibynnol | 1 | 1 | |
| Cyfanswm | 60 | ||
Nodir pleidiau llywodraethol gan fwledi (•)
[golygu] Gweler hefyd
- Gwleidyddiaeth Cymru
- Rhestr o etholaethau Cymru
[golygu] Dolenni allanol
| Pleidiau gwleidyddol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru | ||||||||
|
