Caerdydd
Oddi ar Wicipedia
|
Dinas Caerdydd
|
|
|---|---|
| Arfbais | |
| Motto: Y ddraig goch ddyry cychwyn | |
| Lleoliad Dinas Caerdydd (Coch) o fewn Cymru (Gwyrdd) | |
|
Daearyddiaeth
|
|
| Statws: | Dinas (1905) |
| Pencadlys: | Caerdydd |
| Arwynebedd: | 140 km² |
| Cód ONS: | 12PT |
| ISO 3166-2: | GB-CRF |
|
Demograffeg
|
|
| Poblogaeth (2001) | 305,353 2,181 / km² |
|
Gwleidyddiaeth
|
|
| www.caerdydd.gov.uk | |
| Gweithgor: | Dim rheolaeth gyffredinol |
| AS: | Kevin Brennan, Alun Michael, Julie Morgan, Jenny Willott |
Caerdydd (Saesneg: Cardiff) yw dinas fwyaf Cymru a'i phrifddinas. Roedd Caerdydd yn dref fechan tan flynyddoedd cynnar y 19eg ganrif. Tyfodd yn gyflym gyda dyfodiad y chwyldro diwydiannol ac yn arbennig pan gysylltwyd y cymoedd â rheilffyrdd fel y gellid allforio glo o'r porthladd. Yn 1851 'roedd poblogaeth Caerdydd yn 20,000 ond erbyn 1911 roedd yn 182,000 ac erbyn 1991 roedd yn 269,000. Yn 1891 roedd Caerdydd yn allforio 708,000 o dunelli o lo: erbyn 1911 roedd yr allforion yn 10 miliwn tunnell.
Roedd porthladd Caerdydd yn cael ei adnabod fel Tiger Bay, ac ar un adeg hwn oedd un o borthladdoedd mwyaf prysur y byd. Ar ôl cyfnod hir o ddirywiad, mae'r ardal wedi cael ei hadnewyddu fel Bae Caerdydd. Gobeithir y daw yn ardal boblogaidd ar gyfer y celfyddydau, bywyd nos ac adloniant. Daw'r twf aruthrol yma ar ôl adeiladu argae ar draws y bae, gan greu llyn enfawr.Yr oedd hyn yn ddadleuol iawn ar y pryd, ac yr oedd hefyd yn ofid fod y gymuned leol a oedd yn bodoli yn Tiger Bay yn cael ei chwalu. Ym Mae Caerdydd yr ymsefydlodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yno mae Canolfan y Mileniwm sydd yn gartref i Urdd Gobaith Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru yn ogystal â Stadiwm y Mileniwm.
Cynnwys |
[golygu] Hanes
Ymwelodd Gerallt Gymro â Chaerdydd yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.
[golygu] Cestyll
[golygu] Cymunedau Caerdydd
[golygu] Trafnidiaeth
Mae'r rhwydwaith trafnidiaeth cyhoeddus yn y ddinas yn cael ei redeg gan Bws Caerdydd a Trenau Arriva Cymru. Mae'r rhwydwaith yn cynnwys wyth rheilffordd, i Faesteg, Bro Morgannwg a Maes Awyr Caerdydd, Treherbert, Merthyr Tudfil ac Aberdâr, Coryton, Rhymni, a Bae Caerdydd. Mae gan y ddinas 22 orsaf fel gorsafoedd Caerdydd Canolog a Chaerdydd Heol Y Frenhines, ill dwy yng nghanol y ddinas.
Mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd ym Mro Morgannwg.
[golygu] Pobl o Gaerdydd
- Pino Palladino
- Dannie Abse
- Leo Abse
- Wilfred Abse
- Jeremy Bowen
- Shirley Bassey
- Dave Burns
- Owen John Thomas
- Charlotte Church
- Gillian Clarke
- Roald Dahl
- Reuben Pengelly
- Dave Edmunds
- Ryan Giggs
- Ioan Gruffudd
- Frank Hennessy
- John Humphrys
- Colin Jackson
- Bobi Jones
- Griff Rhys Jones
- Rob Lacey
- Shelley Jones
- Donna Lewis
- Lorna Morgan
- Rhodri Morgan
- Terry Nation
- Ivor Novello
- Edward V. Robertson
- Jon Ronson
- Clive Sullivan
- Shakin' Stevens
- John Toshack
- Lewis Shane
- Rebecca Scott
- Craig Bellamy
- Ken Follett
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd ym 1883, 1899, 1938, 1960, 1978 a 2008. Am wybodaeth bellach gweler:
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1883
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1899
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1938
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1960
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1978
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd a'r Cylch 2008
[golygu] Gefeilldrefi
[golygu] Dolenni allanol
- Cyngor Caerdydd
- Prifysgol Caerdydd
- Menter Caerdydd Menter Iaith y ddinas
|
|
|
|---|---|
| Abertawe | Bangor | Caerdydd | Casnewydd | Tyddewi | |

