Tbilisi
Prifddinas a dinas fwyaf Gweriniaeth Georgia, ar lannau afon Kura (Mtkvari) yn nwyrain y wlad, yw Tbilisi (Georgieg: თბილისი). Daw'r ffurf bresennol ar yr enw o'r enw Georgeg Tpilisi sy'n tarddu o'r enw Armenieg Teplis a'r enw Groeg Tiflis; benthycwyd yr olaf i'r Rwseg ac o 1936 ymlaen ei henw swyddogol yn yr iaith honno yw Тифлис (Tiflis): mae'n dal i gael ei hadnabod felly weithiau heddiw mewn ieithoedd eraill. Mae gan y ddinas arwynebedd o 726 km² (280.3 milltir sgwar) a phoblogaeth o 1,093,000.
Sefydlwyd Tbilisi yn y 5ed ganrif OC gan Vakhtang Gorgasali, Brenin Siorsaidd Kartli (Iberia), a daeth yn brifddinas y wlad yn y 6ed ganrif. Heddiw mae Tbilisi yn ganolfan diwydiant a diwylliant bwysig sy'n gorwedd ar groesfan hanesyddol rhwng Ewrop ac Asia. Yn gorwedd ar un o ganghennau Llwybr y Sidan, mae Tbilisi wedi gweld sawl ymigprys am reolaeth arni yn ei hanes. Adlewychir hyn yn ei phensaernïaeth gyfoethog, gydag ardal fodern Rhodfa Rustaveli a'r cylch yn ymdoddi i strydoedd cul yr hen ardal ganoloesol Narikala.
Cynnwys |
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Adeilad Gwasanaeth Fforddiau Tbilisi
- Eglwys Gadeiriol Sameba
- Eglwys Metekhi
- Narikala
- Senedd
Enwogion [golygu]
- Alexander Orbeliani (1802-1869), bardd a dramodydd
- Rouben Mamoulian (1897-1987), cyfarwyddwr ffilm
- Boris Akunin (g. 1956), nofelydd
Chwaraeon [golygu]
Dolenni allanol [golygu]