Skopje
Oddi ar Wicipedia
Prifddinas a dinas fwyaf Gweriniaeth Macedonia yw Skopje (Macedoneg Скопје, Albaneg Shkupi). Gyda phoblogaeth dipyn yn uwch na hanner miliwn o drigolion, hon yw canolfan wleidyddol, ddiwylliannol, economeg ac academaidd y wlad. Mae poblogaeth y ddinas yn gymysg. Yn eu mysg y mae Macedoniaid (66.7%), Albaniaid (20.5%), Roma (4.6%), Serbiaid (2.8%) a Thyrciaid (1.7%). Saif y ddinas ar Afon Vardar yng ngogledd y wlad.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Croes Mileniwm
- Dinas Kale
- Eglwys gadeiriol
- Eglwys Sant Demetrius
- Eglwys Sant Panteleimon
- Eglwys Sant Spas
- Kuršumli An
- Mosg Mustafa Pasha
- Pont Faen
- Sgwâr Macedonia
Enwogion [golygu]
- Y Fam Teresa (1910-1997)
- Vlado Bučkovski (g. 1962), gwleidydd
- Darko Pančev (g. 1965), chwaraewr pêl-droed
- Martin Vučić (g. 1982), canwr