Vilnius
Prifddinas a dinas fwyaf Lithwania yw Vilnius (pwyleg: Wilno), gyda phoblogaeth o 555,613 (847,954 yn cynnwys Swydd Vilnius) yn 2008. Mae'n ganolfan weinyddol Dinas Vilnius, Dosbarth Dinesig Vilnius, a Swydd Vilnius. Yn 2009 Vilnius yw Prifddinas Diwylliant Ewrop ynghyd â Linz, Awstria.
Gorwedd y ddinas ar gyfaber afonydd Vilnia a Neris yn ne-ddwyrain Lithwania. Tybir fod ei henw yn deillio o enw afon Vilnia. Nid yw'n gorwedd yng nghanol Lithwania heddiw ond yn hanesyddol roedd yn gorwedd yng nghanol Dugiaeth Fawr Lithwania. Lleolir Vilnius tua 312 km (194 milltir) o lan y Môr Baltig a Klaipeda, prif borthladd Lithwania. Cyslltir Vilnius gan draffyrdd i rai o ddinasoedd mawr eraill y wlad, fel Kaunas (102 km/63 milltir i ffwrdd), Šiauliai (214 km/133 milltir) a Panevėžys (135 km/84 miltir).
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Amgueddfa Genedlaethol Lithuania
- Eglwys Gadeiriol y Theotokos
- Eglwys Sant Anne
- Llyfrgell Martynas Mažvydas
- Tŵr Gediminas
Enwogion [golygu]
- Jascha Heifetz (1901-1987), cerddor
- Romain Gary (1914-1980), awdur
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) Gwefan swyddogol y ddinas