Roazhon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tai canoloesol yn Place du Champ Jacquet
Lleoliad yn Ffrainc

Prifddinas Llydaw ydyw Roazhon (Ffrangeg: Rennes). Fe'i lleolir yn nwyrain Llydaw (Breizh-Uhel neu Lydaw Uchel), yng ngwladwriaeth Ffrainc. Yn ogystal â bod yn brifddinas ar ranbarth Llydaw, mae hefyd yn préfecture ar département "Ille-et-Vilaine".

Daearyddiaeth[golygu]

Mae'r hen ddinas ei hun ar fryn ac mae'r rhan ogleddol yn uwch na'r rhan ddeheuol. Mae Roazhon wedi'i lleoli lle mae dwy afon yr ardal yn cwrdd, yr Afon Il (Ffrangeg: Ille) ac yr Afon Gwilun (Ffrangeg: Vilaine).

Hanes[golygu]

Prifddinas y Riedones, pobl geltaidd, oedd Roazhon, ha Condata oedd yr hen enw. Mae'r enwau Roazhon a Rennes yn dod o'r gair Riedones.

Yn Roazhon roedd y tywysogion yn cael eu goronu yn amser yr Annybeniaeth.

Poblogaeth[golygu]

Mae poblogaeth y ddinas ar gynydd. Yn ôl amgangyfrifiad ym mis Chwefror 2004, roedd 209,100 o bobl yn byw yno. Roedd poblogaeth yr ardal fetropolataidd (Ffrangeg: aire urbaine) yn 521,188 yn ôl cyfrifiad 1999, gan olygu mai hi yw'r ddeuddegfed ardal fwyaf poblog yn Ffrainc gyfan. Gelwir y bobl sy'n byw yno yn "Rennais" (Roazhoniz, yn Llydaweg).

Gweinyddiaeth[golygu]

Mae'r ddinas wedi'i rhannu yn 11 o is-ardaloedd ac mae gan bob un ohonynt eu cynghorwyr eu hunain.

Golygfeydd[golygu]

Mae Roazhon yn ddinas adnabyddus am ei hanes a'i phrydferthwch ac mae rhai adeiladau'n dyddio'n ôl mor bell â'r 14eg ganrif.

Senedd Llydaw

Canolfan Hanesyddol[golygu]

Mae "Senedd Llydaw", "Parlement de Bretagne" neu "Breujoù Breizh" yn un o adeiladau enwocaf y ddinas. Cafodd ei hailgodi wedi tân a ddinistriodd yr adeilad ym 1994. Erbyn hyn, lleolir llys apêl y ddinas yno. Er i dân mawr ddinistrio llawer o'r tai pren traddodiadol, cafodd y ddinas ei hail-godi yn arddull Paris a cheir tai lliwgar traddodiadol a wneir o drawstiau pren ar hyd rhai o strydoedd y canol o hyd.

Trafnidiaeth[golygu]

Mae rhwydwaith bysiau cynhwysfawr gan y ddinas, yn ogystal â llinell reilffordd danddaearol. Mae Roazhon yn un o ddinasoedd lleiaf y byd i fod â system o'r fath ac mae wedi lleihau traffig yng nghanol y ddinas yn sylweddol. Yn sgil llwyddiant y system bresennol, bwriedir sefydlu ail linell yn y dyfodol. Mae trenau TGV yn cysylltu Roazhon â Pharis mewn ychydig dros ddwy awr ac mae maes awyr gan y ddinas yn St Jaques de la Lande.

Saint George Palace: un o adeiladau mwyaf urddasol Roazhon. Codwyd yn wreiddiol fel abaty.

Diwylliant[golygu]

Roazhon Llydaweg[golygu]

Dim ond un ysgol Ffrangeg sydd yn cynnig dosbarthiadau Llydaweg.

Er nad yw Roazhon yn yr ardal hanesyddol Llydaweg ei hiaith, mae'r diwylliant i'w weld o gwmpas y ddinas. Cynhelir festoù-noz yn aml. Mae ysgol Lydaweg Diwan yn ne'r ddinas, ac ysgol ddwyieithog yn nghanol y ddinas. Gellir gweld ambell arwydd dwyieithog yn y strydoedd.

Mae'r Llydaweg yn cael ei dysgu yn y brifysgol, lle dysgir Cymraeg hefyd.

Yn ogystal â'r Llydaweg, mae Gallo hefyd yn cael ei siarad i ryw raddau yn y ddinas. Mae'r ddinas yn rhoi pwyslais ar y celfyddydau ac mae nifer o wyliau cerddorol a gweledol trwy gydol y flwyddyn. Mae'r Transmusicales yn denu nifer fawr o bobl sy'n heidio i weld y grwpiau rhyngwladol sy'n perfformio yno ac mae les Tombées de la Nuit yn dod â'r ddinas yn fyw yn yr haf. Mae Travelling (gŵyl sinema) yn adnabyddus dros ben yn Ffrainc am roi llwyfan i ffilmiau o un wlad ddethol bob blwyddyn. Roedd Roazhon yn un o ddinasoedd cyntaf Ffrainc i sefydlu ei sianel deledu ei hun, TV Rennes, a grëwyd yn 1987. Mae hefyd yn gartref i dîm pêl-droed sy'n chwarae yng nghynghrair Ffrainc (Stade Rennais yw eu stadiwm).

Economi[golygu]

Mae cynhyrchu ceir a thelegyfathrebu ymhlith prif ddiwydiannau'r ddinas. Agorwyd ffatri Citroën yno yn 1961.