Mulhouse
Oddi ar Wicipedia
Dinas a commune yn nwyrain Ffrainc yw Mulhouse (Almaeneg: Mülhausen). Saif yn département Haut-Rhin a région Alsace, ac yn agos i'r ffîn a'r Almaen a'r Swistir, 14 km o'r Almaen a 30 km o'r Swistir. Roedd y boblogaeth yn 1999 yn 112,260, a phoblogaeth yr ardal ddinesig yn 271,024.
Ar yn adeg, roedd Mulhouse yn weriniaeth annibynnol, a dim ond ar 4 Ionawr 1798 y daeth yn rhan o Ffrainc. Daeth yn ddinas ddiwydiannol bwysig, a chafodd y llysenw "Manceinion Ffrainc". Saif ar ddwy afon, afon Doller ac afon Ill, y ddwy yn llifo i afon Rhein.
Pobl enwog o Mulhouse [golygu]
- Alfred Dreyfus (1859-1935)
Panorma o Mulhouse. Mynyddoedd y Vosges ar y chwith