Lyon
Oddi ar Wicipedia
Dinas fawr yn ne-ddwyrain Ffrainc yw Lyon. Hi yw'r drydedd fwyaf o ran poblogaeth, ar ôl Paris a Marseilles, ac ail ddinas weinyddol y wlad. Fe'i lleolir yn département Rhône yn région Rhône-Alpes, ger y fangre lle mae Afon Rhône ac Afon Saône yn cwrdd. Gelwir trigolion y ddinas yn Lyonnais.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Eglwys Gadeiriol Saint-Jean
- Eglwys Notre-Dame de Fourvière
- Gare de Lyon Saint-Exupéry
- Place Bellecour
- Tŵr Crédit Lyonnais
- Tŵr Incity
- Tŵr Oxygène
Enwogion [golygu]
- André-Marie Ampère (1775-1836), ffisegydd
- Antoine de Saint-Exupéry (1900-1944), awdur
- Maurice Jarre (1924-2009), cyfansoddwr
- Jean Michel Jarre (g. 1948), cerddor
Dolenni Allanol [golygu]
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
- (Ffrangeg) Gwefan Swyddogol Lyon