Marseille
Dinas ail-fwyaf Ffrainc yw Marseille, (Profensaleg Occitaneg: Marselha) gyda phoblogaeth o 1,349,772. Mae yng nghyn-dalaith Provence ger Môr y Canoldir. Marseille yw porthladd mwyaf Ffrainc a phrifddinas région Provence-Alpes-Côte d'Azur a département Bouches-du-Rhône.
Sefydlwyd Marseille tua 600 CC gan Roegiaid o Phocaea dan yr enw Μασσαλία (Massalia). Roedd yn ganolfan fasnachu bwysig a thyfodd yn gyflym. Daeth dan fygythiad gan gynghrair yr Etrwsciaid, Carthago a'r Celtiaid, a throdd at y Rhufeiniaid am gymorth. Daeth yn ddinas bwysig iawn yn y cyfnod Rhufeinig, ac wedi cyfnod o ddirywiad yn dilyn cwymp yr ymerodraeth roedd wedi ad-ennill ei phwysigrwydd erbyn y 10fed ganrif.
Rhoddodd y ddinas ei henw i anthem genedlaethol Ffrainc, "La Marseillaise", a gafodd ei chanu am y tro cyntaf gan filwyr Marseille oedd wedi dod i Baris i gefnogi'r Chwyldro Ffrengig.
Yn y 1970au effeithiwyd ar Marseille gan broblemau economaidd, ac arweiniodd diweithdra uchel, lefel uchel o droseddu a chanran uchel o fewnfudwyr, yn enwedig o Ogledd Affrica, at gynnydd mewn cefnogaeth i bleidiau'r dde eithafol. Mae'r sefyllfa economaidd wedi gwella yn y blynyddoedd diwethaf.
Cynnwys |
Adeiladau[golygu]
- Cathédrale de la Major
- Eglwys Notre Dame de la Garde
- Eglwys St Laurent
- Gare Saint-Charles (gorsaf)
- Hotel de Ville
- Musée des Beaux Arts (amgueddfa)
- Palais Longchamp
- Theatre du Gymnase
Diwylliant[golygu]
Bydd Marseille yn Brifddinas Diwylliant Ewrop yn 2013.
Enwogion[golygu]
Ymhlith yr enwogion a aned yn Marseille mae:
- Antonin Artaud (1897–1948), awdur
- Adolphe Thiers (1797–1877), arlywydd cyntaf Trydedd Weriniaeth Ffrainc
- Éric Cantona (ganed 1966), pêl-droediwr
- Zinedine Zidane (ganed 1972), pêl-droediwr
Dolenni allanol[golygu]
- (Ffrangeg) Office du Tourisme
- (Ffrangeg) Capitale culturelle européenne 2013
- (Saesneg) Marseille City of Culture