Perpignan
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn ne Ffrainc yw Perpignan (Catalaneg: Perpinyà). Hi yw prifddinas département Pyrénées-Orientales. Roedd y boblogaeth yn 2004 yn 116,700, gyda phoblogaeth yr ardal ddinesig (aire urbaine) yn 249,016 yn 1999.
Ymhlith atyniadau'r ddinas mae'r eglwys gadeiriol, a ddechreuwyd yn 1324 ac a orffennwyd yn 1509. Mae'r tîm rygbi'r undeb yn un o dimau cryfaf Ffrainc, ac mae hefyd dîm rygbi'r cynghrair, "Dreigiau Catalonia".