Dijon
Oddi ar Wicipedia
Dinas a commune yn nwyrain Ffrainc yw Dijon. Mae'n brifddinas département Côte-d'Or a région Bourgogne. Yn 2007, roedd poblogaeth y ddinas yn 155,340, sy'n ei rhoi yn ddeunawfed o ran poblogaeth ymysg dinasoedd Ffrainc. Mae poblogaeth yr ardal ddinesig tua 260,000.
Fel hen brifddinas Dugiaid Bwrgwyn, mae'r ddinas yn un hanesyddol, gyda llawer o adeiladau o ddiddordeb pansaernïol, ac yn atyniad i dwristiaid. Saif 310 km i'r de-ddwyrain o ddinas Paris, 190 km i'r gogledd-orllewin o Genefa a 190 km i'r gogledd o Lyon.
[golygu] Adeiladau a chofadeiladau
- Eglwys gadeiriol
- Palais des Ducs et des États de Bourgogne
- Porte Guillaume
[golygu] Pobl enwog o Dijon
- Jean-Philippe Rameau (1683-1764), cyfansoddwr
- Gustave Eiffel (1832-1923), peiriannydd