Rouen

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
SaintMaclou.JPG

Dinas yn Normandi yng ngogledd-orllewin Ffrainc yw Rouen. Hi oedd prifddinas hanesyddol Normandi, ac mae'n brifddinas région Haute-Normandie a département Seine-Maritime. Saif ar Afon Seine.

Yn 2007, roedd poblogaeth yr ardal ddinesig yn 541,410, ac amcangyfrifwyd fod poblogaeth y ddinas ei hun yn 109,000.

Sefydlwyd Rouen fel Ratumacos gan lwyth Celtaidd y Veliocassi. Galwai'r Rhufeiniaid y ddinas yn Rotomagus. Wedi i dalaith Gallia Lugdunensis gael ei rhannu'n ddau dan yr ymerawdwr Diocletian, daeth Rouen yn brifddinas Gallia Lugdunensis II.

O 912, Rouen oedd prifddinas Dugiaeth Normandi ac yno yr oedd Dugaid Normandi yn byw hyd nes i Gwilym Goncwerwr adeiladu castell yn Caen. Yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd, ildiwyd y ddinas i'r Saeson yn 1419. Yma y llosgwyd Jeanne d'Arc ar 30 Mai, 1431. Cipiodd y Ffrancod y ddinas yn ôl yn 1449.

[golygu] Pobl enwog o Rouen