Toulon
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn ne Ffrainc yw Toulon (Occitaneg Tolon neu Touloun). Saif ar arfordir y Môr Canoldir ac mae'n un o ganolfannau pwysicaf Llynges Ffrainc. Mae'n brifddinas departément Var, yn region Provence-Alpes-Côte-d'Azur.
Roedd poblogaeth y ddinas yn 2005 yn 167,400; saif yn bymthegfed ymhlith dinasoedd Ffrainc o ran poblogaeth. Roedd poblogaeth yr ardal ddinesig (aire urbaine) yn 564,823 yn 1999, y degfed yn Ffrainc o ran maint.
Sefydlwyd tref Rufeinig Telo Martius yma yn yr ail ganrif CC, wedi i'r Rhufeiniaid orchfygu'r Ligwriaid.

