Nice
Oddi ar Wicipedia
|
||||
| Arwyddair: Nicæa civitas¹ ("Nice y ddinas") |
||||
| Llysenwau: Nissa la bella (Niçois: "Nice y brydferth") La reine de la Côte-d'Azur ("Brenhines y Côte-d'Azur") Queen of the Riviera ("Brenhines y Riviera") |
||||
![]() |
||||
| Adran | Alpes-Maritimes | |||
| Rhanbarth | Provence-Alpes-Côte d'Azur (PACA) | |||
| Iaith swyddogol | Ffrangeg | |||
| Ieithoedd eraill | Eidaleg ac Arabeg | |||
| Hen iaith | Niçois | |||
| Maer | Christian Estrosi (ers 2008) |
|||
| Poblogaeth |
Dinas: 347,100 (1999) Ardal: 933,080 |
|||
| Ymuned gyda Ffrainc | 12 Medi, 1860 | |||
| Hinsawdd | Canoldir | |||
| Côd post | 06000,06100,06200,06300 | |||
| Côd Ffonio | +33 493 | |||
| Nodiad: 1 Arwyddair gwreiddiol y ddinas oedd "Nicæa civitas fidelissima", "Nice, y ddinas ffyddlon iawn" (hynny yw; i dŷ Savoy). Byrhawyd yr arwyddair yn 1860 pan ymunodd Nice gyda Ffrainc. |
||||
Nice (hefyd Nissa) (Niçois: Niça; Eidaleg: Nizza) yw pumed ddinas fwyaf Ffrainc. Mae hi wedi'i lleoli yn ne-ddwyrain Ffrainc wrth y Môr Canoldir ym Mae yr Angylion.
- Nice yw prifddinas adran yr Alpes-Maritimes a phrif ddinas y Côte-d'Azur.
- Gelwir Nice yn "Frenhines y Riviera".
- Daeth enw Nice o'r hen enw Groeg Νικαία (Nikaia).
- Roedd Nice yn dalaith annibynnol i Ffrainc cyn iddo ymuno yn 1860. Mae llawer yn credu bod Nice yn arfer perthyn i'r Eidal ond dydy hyn ddim yn gywir. Roedd hi'n arfer perthyn i deyrnas Sardinia. Pan ymunodd Sardinia a'r Eidal fe ymunodd Nice a Ffrainc.
Cynnwys |
Hinsawdd Nice [golygu]
Mae Nice ar lan y Môr Canoldir ac mae'r Alpau sy'n union i'r gogledd yn eu chysgodi yn erbyn y tywydd oer. Mae manylion hinsawdd Nice yn yr erthygl "Hinsawdd y Riviera".
Ffeithiau diddorol [golygu]
- Mae'r Promenade des Anglais (Niçois: Camin dei Engles; "Promenâd y Saeson") rhyw bum milltir o hyd. Gafodd ei adeiladu gan y Saeson yn 1820 er mwyn gallu mynd am dro ar lan y môr.
- Pob canol dydd fe fydd magnel yn saethu ergyd o fryn y castell. Fe ddechreuwyd y ddefod hon gan Sais o'r enw Thomas Coventry oedd yn mynnu bwyta ei ginio am ddeuddeg o'r gloch.
- Maes-glanio Nice yw maes-glanio mwyaf Ffrainc tu allan i Baris.
- Canolfan siopa "Cap 3000" ("Cap trwâ mîl") gerllaw yn St. Laurent-du-Var yw'r canolfan siopa fwyaf ar y Côte-d'Azur a chanolfan siopa gyntaf Ffrainc.
- Mae mwy o oleuadau traffig yn Nice nag unrhyw ddinas arall yn Ffrainc. Y cyntaf oedd ar y groesffordd rhwng Avenue Jean Médecin a Boulevard Victor Hugo yn nghanol y ddinas.
- Mae trên bach; Chemins de fer de Provence yn mynd o Nice i Digne-les-Bains. Mae hwn yn daith ddiddorol sy'n mynd drwy mynyddoedd cefnwlad Nice a chefn gwlad Provence. Ambell waith fe fydd trên ager yn rhedeg ar y lein, Le train des pignes (trên y pîn) sy'n llosgu pîn yn lle glo.
- Mae yna drên diddorol arall; Train des merveilles (trên y rhyfeddodau) yn mynd drwy mynyddoedd y cefnwlad o Nice i Tende ac ymlaen i Cuneo yn yr Eidal. Mewn tair man fe fydd y trên yn codi i lefel uwch mewn twnel sy'n troi fel allwedd costrel tu mewn y mynydd.
Pobl o Nice [golygu]
- André Masséna (1758-1817), milwr
- Giuseppe Garibaldi (1807-1882), milwr a gwleidydd
- Michèle Mercier (g. 1939), actores
- Mae'r arlunydd Cymreig Andrew Vicari yn byw yn Nice.
Dolenni allanol [golygu]
- (Ffrangeg) Gwefan swyddogol
-
La Cathedrale Orthodoxe Russe Saint-Nicolas.jpg
Eglwys gadeiriol Rwsiaid, St. Nicolas
-
Cynllun Nice 1624
