Santa Cruz de Tenerife
Oddi ar Wicipedia
m̩
Prifddinas ynys Tenerife, yr ynys fwyaf o ran poblogaeth yn yr Ynysoedd Dedwydd ac yn Sbaen, yw Santa Cruz de Tenerife. Hi yw prifddinas talaith Santa Cruz de Tenerife, a phrifddinas Cymuned Ymreolaethol yr Ynysoedd Dedwydd ar y cyd gyda Las Palmas de Gran Canaria.
Saif ar yr arfordir yng ngogledd-ddwyrain ynys Tenerife. Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 220,902. Ymhlith ei diwydiannau, ceir y burfa olew hynaf yn Sbaen, sydd wedi bod yn gweithio ers 1930.
Adeiladau a chofadeiladau[golygu]
- Auditorio de Tenerife
- Castell San Juan Baptist (neu Castillo Negro)
- Iglesia de La Concepción (eglwys)
- Prifysgol La Laguna
- Tenerife Espacio de las Artes
- Theatr Guimerá
- Torres de Santa Cruz
Enwogion[golygu]
- Àngel Guimerà (1845-1924), dramodydd
- Rafael Arozarena (1923-2009), bardd a nofelydd