Rio de Janeiro
| Rio de Janeiro | |
|---|---|
| Lleoliad o fewn Talaith Rio de Janeiro | |
| Gwlad | Brasil |
| Ardal | De ddwyrain |
| Llywodraeth | |
| Awdurdod Rhanbarthol | Bwrdeisdref São Sebastião do Rio de Janeiro |
| Maer | Eduardo Paes |
| Daearyddiaeth | |
| Arwynebedd | 1,260 km² |
| Uchder | O 0 i 1,021 medr m |
| Demograffeg | |
| Poblogaeth Cyfrifiad | 7.787.098 (Cyfrifiad 2008) |
| Dwysedd Poblogaeth | 4,781 /km2 |
| Metro | 14,387,000 |
| Gwybodaeth Bellach | |
| Cylchfa Amser | BST (UTC-3) Haf BDT (UTC-2) |
| Cod Post | 21 |
| Gwefan | http://www.rio.rj.gov.br/ |
Rio de Janeiro (sy'n meddwl "Afon Ionawr" ym Mhortiwgeg) yw ail ddinas fwyaf Brasil a De America, tu ôl São Paulo a Buenos Aires. Fe'i lleolir ar arfordir ddwyreiniol canolbarth Brasil sy'n enwog am ei thraethau godidog a Mynydd y Dorth Siwgr. Roedd y ddinas yn brifddinas ar Brasil am bron i ddwy ganrif, o 1763 tan 1822 yn ystod cyfnod trefedigaethol Portiwgal, ac o 1822 tan 1960 pan oedd yn wlad annibynnol. Rio de Janeiro oedd cyn-brifddinas yr Ymerodraeth Portiwgeaidd hefyd (1808 - 1821). Caiff y ddinas ei hadnabod yn aml fel Rio, ac mae ganddi'r ffugenw A Cidade Maravilhosa, neu "Y Ddinas Fendigedig".
Mae Rio de Janeiro yn enwog am ei lleoliad naturiol, dathliadau ei charnifal, samba a cherddoriaeth arall, a'r traethau twristaidd, fel Copacabana ac Ipanema. Yn ogystal â'r traethau, mae'r ddinas yn enwog am ei cherflun enfawr o Grist, sy'n cael ei adnabod fel Crist y Iachawdwr ('Cristo Redentor') sydd ar ben mynydd Corcovado. Mae'r ddinas yn enwog hefyd am Fynydd y Dorth Siwgr (Pão de Açúcar) gyda'r cherbydau gwifren; y Sambódromo, stand gorymdaith parhaol a ddefnyddir yn ystod Carnifal a Stadiwm Maracanã, sy'n un o stadiymau peldroed mwyaf y byd.
Ceir y fforest fwyaf a'r ail fwyaf yn y byd yn y ddinas hefyd: mae Floresta da Tijuca, neu "Fforest Tijuca" a'r goedwig yn Parque Estadual da Pedra Branca, sydd bron yn gysylltiedig â'r parc arall. Mae Maes Awyr Rhyngwladol Galeão - Antônio Carlos Jobim yn cysylltu Rio de Janeiro gyda nifer o ddinasoedd eraill Brasil ac yn cynnig nifer o hediadau rhyngwladol eraill.
Er gwaethaf ei phrydferthwch, ystyrir Rio fel un o ddinasoedd mwyaf treisgar y byd,[1]sydd wedi ysbrydoli ffilmiau fel Bus 174, City of God ac Elite Squad sydd oll wedi amlygu nifer o faterion cymdeithasol difrifol. Lleolir llawe o'r troseddau treisgar yn y favelas neu'r trefi shanti ond fe'u gwelir hefyd mewn cymdogaethau dosbarth canol ac uwch. Yn wahanol i nifer o ddinasoedd eraill, lleolir nifer o'r slymiau gyferbyn â rhai o ardaloedd mwyaf cefnog y ddinas.
Adeiladau a chofadeiladau[golygu]
- Arcos da Lapa
- Cerfddelw Crist Gwaredwr
- Museu Nacional de Belas Artes (amgueddfa)
- Stadiwm Engenhão
Enwogion[golygu]
- Maria II, brenhines Portiwgal (1819-1853)
- Joaquim Maria Machado de Assis (1839-1908), awdur
- Alberto Dines (g. 1932), newyddiadurwr
- Paulo Coelho (g. 1947), nofelydd
- Nelson Piquet (g. 1952)
- Ronaldo (g. 1976), chwaraewr pêl-droed
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ Rio hit by deadly gang violenceBBC NEWS. Americas. Adalwyd 26-04-2009