Cwpan y Byd Pêl-droed 2014

Oddi ar Wicipedia
Cwpan Pêl-droed y Byd 2014
Copa do Mundo da FIFA
Brasil 2014
Logo Cwpan y Byd FIFA 2014
Manylion
CynhaliwydBrasil
Dyddiadau12 Mehefin – 13 Gorffennaf
Timau32 (o 5 ffederasiwns)
Lleoliad(au)12 (mewn 12 dinas)
Safleoedd Terfynol
PencampwyrBaner Yr Almaen yr Almaen (4ydd)
AilBaner Yr Ariannin yr Ariannin
TrydyddBaner Yr Iseldiroedd yr Iseldiroedd
PedweryddBaner Brasil Brasil
Ystadegau
Gemau chwaraewyd64
Goliau a sgoriwyd171 (2.67 y gêm)
Torf3,429,875 (53,592 y gêm)
Prif sgoriwr(wyr)Colombia James Rodríguez
(6 gôl)
Chwaraewr gorauBaner Yr Ariannin Lionel Messi
Chwaraewr ifanc gorauBaner Ffrainc Paul Pogba
Golwr gorauBaner Yr Almaen Manuel Neuer
2010
2018

Cynhaliwyd Cwpan y Byd FIFA 2014 yn Brasil rhwng 12 Mehefin ac 13 Gorffennaf 2014. Dyma fydd yr ugeinfed tro i'r gystadleuaeth gael ei chynnal a'r ail dro i Brasil gynnal y gystadleuaeth, ar ôl cynnal Cwpan y Byd 1950.

Dechreuodd y broses o gyrraedd Brasil ar 15 Mehefin, 2011 wrth i Montserrat golli 2-5 gartref yn erbyn Belîs a daeth y gystadleuaeth i ben gyda'r rownd derfynol yn yr Estádio do Maracanã, Rio de Janeiro ar 13 Gorffennaf 2014 wrth i'r Almaen drechu'r Ariannin 1-0 yn y rownd derfynol a thorri eu henwau ar y tlws am y pedwerydd tro yn eu hanes, ac wrth wneud hynny, yn dod y tîm cyntaf o Ewrop i godi'r tlws yn Ne America.

Dyma oedd y tro cyntaf yn hanes Cwpan y Byd i'r dyfarnwyr allu alw ar dechnoleg llinell-gôl i ddyfarnu os yw'r bêl wedi croesi llinell gôl a hefyd y gallu i ddefnyddio ewyn diflannol ar gyfer ciciau rhydd.[1]

Roedd pob gwlad sydd wedi codi Cwpan y Byd yn y gorffennol wedi llwyddo i gyrraedd Cwpan y Byd 2014 gyda'r Almaen (enillodd dair tlws fel Gorllewin Yr Almaen), Yr Ariannin, Brasil, Yr Eidal, Ffrainc, Lloegr, Sbaen ac Wrwgwai i gyd yn bresennol.

Dyma oedd y tro cyntaf i Bosnia a Hercegovina ymddangos yn y rowndiau terfynol.

Dewis Lleoliad[golygu | golygu cod]

Roedd FIFA wedi cyhoeddi yn 2003 mai yn Ne America byddai twrnament 2014 yn cael ei gynnal, fel rhan o'u polisi i rannu'r bencampwriaeth rhwng yr holl gonffederasiynau[2]. Llwyddodd Brasil i ennill yr hawl i gynnal y bencampwriaeth yn 2007 wedi i Colombia dynnu eu cais yn ôl[3].

Rowndiau Rhagbrofol[golygu | golygu cod]

Niferoedd[golygu | golygu cod]

Roedd Brasil yn sicr o'u lle yn y rowndiau terfynol fel y wlad a oedd yn cynnal y twrnament, a chafwyd 207 o wledydd eraill yn ceisio am 31 lle yn y rowndiau terfynol oedd wedi'w rhannu rhwng y chwe conffederasiwn fel a ganlyn[4]:

  • AFC (Asia): 4 neu 5 lle
  • CAF (Affrica): 5 lle
  • CONCACAF (Gogledd, Canol America a'r Caribî): 3 neu 4 lle
  • CONMEBOL (De America): 4 neu 5 lle (+ Brazil am gyfanswm o 5 neu 6 lle)
  • OFC (Oceania): 0 neu 1 lle
  • UEFA (Ewrop): 13 lle

Roedd y tîm a orffenodd yn bumed yn yr AFC yn herio'r tîm a orffenodd yn bumed yn CONMEBOL gyda'r tîm a oedd yn bedwerydd yn CONCACAF yn herio'r tîm a orffenodd yn gyntaf yng ngemau rhagbrofol OFC am le yn y rowndiau terfynol.

Bhwtan, Brwnei, Gwam a Mauritania oedd yr unig aelodau o Fifa i beidio cystadlu tra bod De Swdan wedi ymuno â Fifa ar ôl i'r broses rhagbrofol gychwyn. Cafwyd 820 o gemau yn y broses rhagbrofol wedi i'r Bahamas a Mawrisiws dynnu'n ôl o'r gystadleuaeth[5][6][7].

Timau Llwyddiannus[golygu | golygu cod]

Detholi'r grwpiau[golygu | golygu cod]

Defnyddir safle dethol y timau ar restr detholion Fifa (mewn cromfachau) ym mis Hydref 2013 ar gyfer dethol y timau[8].

Pot 1: Prif Ddetholion Pot 2: Affrica a De America Pot 3: Asia a Gogledd America Pot 4: Ewrop

Cafodd un tîm Ewropeaidd ei dynnu allan o Bot 4 er mwyn creu pedwar pot gydag wyth tîm ym mhob un (Yr Eidal ddaeth allan o'r pot). Er mwyn sicrhau gwahaniaeth daearyddol ym mhob grŵp, crewydd pot ychwanegol ("Pot X") lle rhoddwyd y pedwar prif ddetholyn o Dde America (o Bot 1) a chafodd Wrwgwái eu tynnu allan o'r pot ychwanegol yma. Cafodd Yr Eidal (o Bot 2) eu gosod yn yr un grŵp ag Wrwgwái (o Pot X) er mwyn sicrhau na fyddai tri thîm Ewropeaidd yn ymddangos yn yr un grŵp.

Canlyniadau[golygu | golygu cod]

Amser pob gêm wedi ei nodi yn Amser Hâf Prydain (BST), sef UTC+1

Y Grwpiau[golygu | golygu cod]

Roedd gemau'r grwpiau yn nodweddiadol am y nifer o goliau a sgoriwyd a bu rhaid disgwyl hyd nes y trydydd gêm ar ddeg cyn cael gêm ddi-sgôr, sef y gêm rhwng Iran a Nigeria. Dyma'r rhediad hiraf heb gêm gyfartal ers Cwpan y Byd 1930[9]. Cafwyd 136 o goliau yn ystod y grwpiau - dim ond naw gôl yn llai na gafwyd trwy gydol twrnament 2010 yn Ne Affrica[10]. Dyma'r nifer fwyaf o goliau yn ystod gemau'r grwpiau ers i'r twrnament ymestyn i 32 tîm ym 1998[11].

Roed chwe tîm wedi sicrhau eu lle yn Rownd yr 16 wedi dim ond dwy gêm: Yr Iseldiroedd, Tsile, Colombia, Costa Rica, Yr Ariannin a Gwlad Belg, ond cafodd y deiliaid, Sbaen, eu bwrw allan o'r gystadleuaeth wedi dwy gêm[12][13].

Methodd Lloegr a chamu ymlaen o'r grwpiau am y tro cyntaf ers Cwpan y Byd 1958[14] a cafodd Yr Eidal eu bwrw allan o'r gystadleuaeth ar ôl rhwydo dwy gôl yn unig - eu cyfanswm gwaethaf ers Cwpan y Byd 1966[15]

Llwyddod wyth o'r 10 tîm o gyfandiroedd yr Americas (CONCACAF a CONMEBOL) i gyrraedd Rownd yr 16 a dyma'r tro cyntaf i CONCACAF weld tri thîm ymysg yr 16 olaf a'r tro cyntaf i ddau dîm o Africa (CAF) gamu allan o'r grwpiau[16][17]. Ond cafodd timau Asia (AFC) bencampwriaeth i'w anghofio gyda pob un o'u timau yn gorffen ar waelod eu grŵp heb ennill yr un gêm[16][18].

Grŵp A[golygu | golygu cod]

Tîm Chw E Cyf C + - GG Pt
Baner Brasil Brasil 3 2 1 0 7 2 +5 7
Baner Mecsico Mecsico 3 2 1 0 4 1 +3 7
Baner Croatia Croatia 3 1 0 2 6 6 0 3
Baner Camerŵn Camerŵn 3 0 0 3 1 9 -8 0
12 Mehefin 2014
21:00
Brasil Baner Brasil 3 – 1 Baner Croatia Croatia
Neymar Goal 29'71' (c.o.s.)
Oscar Goal 90+1'
(Saesneg) Adroddiad Marcelo Goal 11' (g.e.h.)
Arena de São Paulo, São Paulo
Torf: 62,103
Dyfarnwr: Yuichi Nishimura Japan

13 Mehefin 2014
17:00
Mecsico Baner Mecsico 1 – 0 Baner Camerŵn Camerŵn
Peralta Goal 61' (Saesneg) Adroddiad
Arena das Dunas, Natal
Torf: 39,216
Dyfarnwr: Wilmar Roldán Baner Colombia

17 Mehefin 2014
20:00
Brasil Baner Brasil 0 – 0 Baner Mecsico Mecsico
(Saesneg) Adroddiad
Estádio Castelão, Fortaleza
Torf: 60,342
Dyfarnwr: Cüneyt Çakır Baner Twrci

18 Mehefin 2014
23:00
Camerŵn Baner Camerŵn 0 – 4 Baner Croatia Croatia
Olić Goal 11'
Perišić Goal 48'
Mandžukić Goal 61'73'
Arena Amazônia, Manaus
Torf: 39,982
Dyfarnwr: Pedro Proença Baner Portiwgal

23 Mehefin 2014
21:00
Camerŵn Baner Camerŵn 1 – 4 Baner Brasil Brasil
Matip Goal 26' Neymar Goal 17'35'
Fred Goal 49'
Fernandinho Goal 84'
Estádio Nacional Mané Garrincha, Brasília
Torf: 69,112
Dyfarnwr: Jonas Eriksson Baner Sweden

23 Mehefin 2014
21:00
Croatia Baner Croatia 1 – 3 Baner Mecsico Mecsico
Perišić Goal 87' (Saesneg) Adroddiad Márquez Goal 72'
Guardado Goal 75'
Hernández Goal 82'
Arena Pernambuco, Recife
Torf: 41,212
Dyfarnwr: Ravshan Irmatov Baner Wsbecistan

Grŵp B[golygu | golygu cod]

Tîm Chw E Cyf C + - GG Pt
Baner Yr Iseldiroedd yr Iseldiroedd 3 3 0 0 10 3 +7 9
Baner Tsile Tsile 3 2 0 1 5 3 +2 6
Baner Sbaen Sbaen 3 1 0 2 4 7 -3 3
Baner Awstralia Awstralia 3 0 0 3 3 9 -6 0
13 Mehefin 2014
20:00
Sbaen Baner Sbaen 1 – 5 Baner Yr Iseldiroedd yr Iseldiroedd
Alonso Goal 27' (c.o.s.) (Saesneg) Adroddiad Van Persie Goal 44'72'
Robben Goal 53'80'
de Vrij Goal 64'
Arena Fonte Nova, Salvador
Torf: 48,173
Dyfarnwr: Nicola Rizzoli Yr Eidal

13 Mehefin 2014
23:00
Tsile Baner Tsile 3 – 1 Baner Awstralia Awstralia
Sánchez Goal 12'
Valdívia Goal 14'
Beausejour Goal 90+2'
(Saesneg) Adroddiad Cahill Goal 35'
Arena Pantanal, Cuiabá
Torf: 40,275
Dyfarnwr: Noumandiez Doué Arfordir Ifori

18 Mehefin 2014
17:00
Awstralia Baner Awstralia 2 – 3 Baner Yr Iseldiroedd yr Iseldiroedd
Cahill Goal 21'
Jedinak Goal 54' (c.o.s.)
(Saesneg) Adroddiad Robben Goal 20'
Van Persie Goal 58'
Memphis Depay Goal 68'
Estádio Beira-Rio, Porto Alegre
Torf: 42,877
Dyfarnwr: Djamel Haimoudi Baner Algeria

18 Mehefin 2014
20:00
Sbaen Baner Sbaen 0 – 2 Baner Tsile Tsile
(Saesneg) Adroddiad Vargas Goal 20'
Aránguiz Goal 43'
Estádio do Maracanã, Rio de Janeiro
Torf: 74,101
Dyfarnwr: Mark Geiger Baner Unol Daleithiau America

23 Mehefin 2014
17:00
Awstralia Baner Awstralia 0 – 2 Baner Sbaen Sbaen
(Saesneg) Adroddiad Villa Goal 36'
Fernando Torres
Arena da Baixada, Curitiba
Torf: 39,375
Dyfarnwr: Nawaf Shukralla Baner Bahrein

23 Mehefin 2014
17:00
yr Iseldiroedd Baner Yr Iseldiroedd 2 – 0 Baner Tsile Tsile
Fer Goal 77'
Memphis Goal 90+2'
(Saesneg) Adroddiad
Arena de São Paulo, São Paulo
Torf: 62,996
Dyfarnwr: Bakary Gassama Baner Y Gambia

Grŵp C[golygu | golygu cod]

Tîm Chw E Cyf C + - GG Pt
Baner Colombia Colombia 3 3 0 0 9 2 +7 9
Baner Groeg Groeg 3 1 1 1 2 4 -2 4
Baner Y Traeth Ifori Côte d'Ivoire 3 1 0 2 4 5 -1 3
Japan Japan 3 0 1 2 2 6 -4 1
14 Mehefin 2014
17:00
Colombia Baner Colombia 3 – 0 Baner Groeg Groeg
Armero Goal 5'
Gutiérrez Goal 58'
Rodríguez Goal 90+3'
Estádio Mineirão, Belo Horizonte
Torf: 57,174
Dyfarnwr: Mark Geiger Baner UDA

15 Mehefin 2014
02:00
Côte d'Ivoire Baner Y Traeth Ifori 2 – 1 Japan Japan
Bony Goal 64'
Gervinho Goal 66'
(Saesneg) Adroddiad Honda Goal 16'
Arena Pernambuco, Recife
Torf: 40,267
Dyfarnwr: Enrique Osses Tsile

19 Mehefin 2014
17:00
Colombia Baner Colombia 2 – 1 Baner Y Traeth Ifori Côte d'Ivoire
Rodríguez Goal 64'
Quintero Goal 70'
(Saesneg) Adroddiad Gervinho Goal 73'
Estádio Nacional Mané Garrincha, Brasília
Torf: 68,748
Dyfarnwr: Howard Webb Baner Lloegr

19 Mehefin 2014
23:00
Japan Japan 0 – 0 Baner Groeg Groeg
(Saesneg) Adroddiad
Arena das Dunas, Natal
Torf: 39,485
Dyfarnwr: Joel Aguilar Baner El Salfador

24 Mehefin 2014
21:00
Japan Japan 1 – 4 Baner Colombia Colombia
Okazaki Goal 45+1' (Saesneg) Adroddiad Cuadrado Goal 17' (c.o.s.)
Martínez Goal 55'82'
Rodríguez Goal 90'
Arena Pantanal, Cuiabá
Torf: 40,340
Dyfarnwr: Pedro Proença Baner Portiwgal

24 Mehefin 2014
21:00
Groeg Baner Groeg 2 – 1 Baner Y Traeth Ifori Côte d'Ivoire
Samaris Goal 42'
Samaras Goal 90+3' (c.o.s.)
(Saesneg) Adroddiad Bony Goal 74'
Estádio Castelão, Fortaleza
Torf: 59,095
Dyfarnwr: Carlos Vera Baner Ecwador

Grŵp D[golygu | golygu cod]

Tîm Chw E Cyf C + - GG Pt
Baner Costa Rica Costa Rica 3 2 1 0 4 1 +3 7
Baner Wrwgwái Wrwgwái 3 2 0 1 4 4 0 6
Baner Yr Eidal yr Eidal 3 1 0 2 2 3 -1 3
Lloegr Lloegr 2 0 0 2 2 4 -2 0
14 Mehefin 2014
20:00
Wrwgwái Baner Wrwgwái 1 – 3 Baner Costa Rica Costa Rica
Cavani Goal 24' (c.o.s.) (Saesneg) Adroddiad Campbell Goal 54'
Duarte Goal 57'
Ureña Goal 84'
Estádio Castelão, Fortaleza
Torf: 58,679
Dyfarnwr: Felix Brych Baner Yr Almaen

14 Mehefin 2014
23:00
Lloegr Lloegr 1 – 2 Baner Yr Eidal yr Eidal
Sturridge Goal 37' (Saesneg) Adroddiad Marchisio Goal 35'
Balotelli Goal 50'
Arena Amazônia, Manaus
Torf: 39,800
Dyfarnwr: Björn Kuipers Baner Yr Iseldiroedd

19 Mehefin 2014
20:00
Wrwgwái Baner Wrwgwái 2 – 1 Lloegr Lloegr
Suárez Goal 39'85' (Saesneg) Adroddiad Rooney Goal 75'
Arena de São Paulo, São Paulo
Torf: 62,575
Dyfarnwr: Carlos Velasco Carballo Baner Sbaen

20 Mehefin 2014
17:00
yr Eidal Baner Yr Eidal 0 – 1 Baner Costa Rica Costa Rica
(Saesneg) [ Adroddiad] Ruiz Goal 44'
Arena Pernambuco, Recife
Torf: 40,285
Dyfarnwr: Enrique Osses Baner Tsile

24 Mehefin 2014
17:00
yr Eidal Baner Yr Eidal 0 – 1 Baner Wrwgwái Wrwgwái
(Saesneg) Adroddiad Godin Goal 81'
Arena das Dunas, Natal
Torf: 39,706
Dyfarnwr: Marco Rodríguez Baner Mecsico

24 Mehefin 2014
17:00
Costa Rica Baner Costa Rica 0 – 0 Lloegr Lloegr
(Saesneg) Adroddiad
Estádio Mineirão, Belo Horizonte
Torf: 57,823
Dyfarnwr: Djamel Haumoudi Baner Algeria

Grŵp E[golygu | golygu cod]

Tîm Chw E Cyf C + - GG Pt
Baner Ffrainc Ffrainc 3 2 1 0 8 2 +6 7
Baner Y Swistir y Swistir 3 2 0 1 7 6 +1 6
Baner Ecwador Ecwador 3 1 1 1 3 3 0 4
Baner Hondwras Honduras 3 0 0 3 1 8 -7 0
15 Mehefin 2014
17:00
y Swistir Baner Y Swistir 2 – 1 Baner Ecwador Ecwador
Mehmedi Goal 48'
Seferovic Goal 90+3'
(Saesneg) Adroddiad Valencia Goal 22'
Estádio Nacional Mané Garrincha, Brasília
Torf: 68,351
Dyfarnwr: Ravshan Irmatov Wsbecistan

15 Mehefin 2014
20:00
Ffrainc Baner Ffrainc 3 – 0 Baner Hondwras Honduras
Benzema Goal 45' (c.o.s.)
Valladares Goal 48' (g.e.h.)
(Saesneg) Adroddiad
Estádio Beira-Rio, Porto Alegre
Torf: 43,012
Dyfarnwr: Sandro Ricci Baner Brasil

20 Mehefin 2014
20:00
y Swistir Baner Y Swistir 2 – 5 Baner Ffrainc Ffrainc
Džemaili Goal 81'
Xhaka Goal 87'
(Saesneg) Adroddiad Giroud Goal 17'
Matiudi Goal 18'
Valbuena Goal 40'
Benzema Goal 67'
Sissoko Goal 73'
Arena Fonte Nova, Salvador
Torf: 51,003
Dyfarnwr: Björn Kuipers Baner Yr Iseldiroedd

20 Mehefin 2014
23:00
Hondwras Baner Hondwras 1 – 2 Baner Ecwador Ecwador
Costly Goal 31' (Saesneg) Adroddiad Valencia Goal 34'55'
Arena da Baixada, Curitiba
Torf: 39,224
Dyfarnwr: Ben Williams Baner Awstralia

25 Mehefin 2014
21:00
Hondwras Baner Hondwras 0 – 3 Baner Y Swistir y Swistir
(Saesneg) Adroddiad Shaqiri Goal 6' (31)71'
Arena Amazônia, Manaus
Torf: 40,322
Dyfarnwr: Néstor Pinta Baner Yr Ariannin

25 Mehefin 2014
21:00
Ecwador Baner Ecwador 0 – 0 Baner Ffrainc Ffrainc
(Saesneg) Adroddiad
Estádio do Maracanã, Rio de Janeiro
Torf: 73,749
Dyfarnwr: Noumandiez Doué Baner Arfordir Ifori

Grŵp F[golygu | golygu cod]

Tîm Chw E Cyf C + - GG Pt
Baner Yr Ariannin yr Ariannin 3 3 0 0 6 3 +3 9
Baner Nigeria Nigeria 3 1 1 1 3 3 0 4
Baner Bosnia a Hercegovina Bosnia a Hercegovina 3 1 0 2 4 4 0 3
Baner Iran Iran 3 0 1 2 1 4 -3 1
15 Mehefin 2014
23:00
Yr Ariannin Baner Yr Ariannin 2 – 1 Baner Bosnia a Hercegovina Bosnia a Hercegovina
Kolašinac Goal 3' (g.e.h.)
Messi Goal 65'
(Saesneg) Adroddiad Ibišević Goal 84'
Estádio do Maracanã, Rio de Janeiro
Torf: 74,738
Dyfarnwr: Joel Eguilar Baner El Salfador

16 Mehefin 2014
20:00
Iran Baner Iran 0 – 0 Baner Nigeria Nigeria
(Saesneg) Adroddiad
Arena da Baixada, Curitiba
Torf: 39,081
Dyfarnwr: Carlos Vera Baner Ecwador

21 Mehefin 2014
17:00
Yr Ariannin Baner Yr Ariannin 1 – 0 Baner Iran Iran
Messi Goal 90+1' (Saesneg) Adroddiad
Estádio Mineirão, Belo Horizonte
Torf: 57,698
Dyfarnwr: Milorad Mažić Baner Serbia

21 Mehefin 2014
23:00
Nigeria Baner Nigeria 1 – 0 Baner Bosnia a Hercegovina Bosnia a Hercegovina
Odemwingie Goal 29' (Saesneg) Adrodiad
Arena Pantanal, Cuiabá
Torf: 40,499
Dyfarnwr: Peter O'Leary Baner Seland Newydd

25 Mehefin 2014
17:00
Nigeria Baner Nigeria 2 – 3 Baner Yr Ariannin yr Ariannin
Musa Goal 4'47' (Saesneg) Adroddiad Messi Goal 3'45+1'
Rojo Goal 50'
Estádio Beira-Rio, Porto Alegre
Torf: 43,285
Dyfarnwr: Nicola Rizzi Baner Yr Eidal

25 Mehefin 2014
17:00
Bosnia a Hercegovina Baner Bosnia a Hercegovina 3 – 1 Baner Iran Iran
Džeko Goal 23'
Pjanić Goal 59'
Vršajević Goal 83'
(Saesneg) Adroddiad Ghoochannejhad Goal 82'
Arena Fonte Nova, Salvador
Torf: 48,011
Dyfarnwr: Carlos Velasco Carballo Baner Sbaen

Grŵp G[golygu | golygu cod]

Tîm Chw E Cyf C + - GG Pt
Baner Yr Almaen yr Almaen 3 2 1 0 7 2 +5 7
Baner Unol Daleithiau America UDA 3 1 1 1 4 4 0 4
Baner Portiwgal Portiwgal 3 1 1 1 4 7 -3 4
Baner Ghana Ghana 3 1 1 1 4 6 -2 1
16 Mehefin 2014
17:00
yr Almaen Baner Yr Almaen 4 – 0 Baner Portiwgal Portiwgal
Müller Goal 12' (c.o.s.)45+1'78'
Hummels Goal 32'
(Saesneg) Adroddiad
Arena Fonte Nova, Salvador
Torf: 51,081
Dyfarnwr: Milorad Mažić Baner Serbia

16 Mehefin 2014
23:00
Ghana Baner Ghana 1 – 2 Baner Unol Daleithiau America UDA
A. Ayew Goal 82' (Saesneg) Adroddiad Dempsey Goal 1'
Brooks Goal 86'
Arena das Dunas, Natal
Torf: 39,760
Dyfarnwr: Jonas Eriksson Baner Sweden

21 Mehefin 2014
20:00
yr Almaen Baner Yr Almaen 2 – 2 Baner Ghana Ghana
Götze Goal 51'
Klose Goal 71'
(Saesneg) Adroddiad A. Ayew Goal 54'
Gyan Goal 63'
Estádio Castelão, Fortaleza
Torf: 59,621
Dyfarnwr: Sandro Ricci Baner Brasil

22 Mehefin 2014
23:00
UDA Baner Unol Daleithiau America 2 – 2 Baner Portiwgal Portiwgal
Jones Goal 54'
Dempsey Goal 81'
(Saesneg) Adroddiad Nani Goal 5'
Varela Goal 90+5'
Arena Amazônia, Manaus
Torf: 40,123
Dyfarnwr: Néstor Pitana Baner Yr Ariannin

26 Mehefin 2014
17:00
UDA Baner Unol Daleithiau America 0 – 1 Baner Yr Almaen yr Almaen
(Saesneg) Adroddiad Müller Goal 55'
Arena Pernambuco, Recife
Torf: 41,876
Dyfarnwr: Ravshan Irmatov Baner Wsbecistan

26 Mehefin 2014
17:00
Portiwgal Baner Portiwgal 2 – 1 Baner Ghana Ghana
Boye Goal 31' (g.e.h)
Ronaldo Goal 80'
(Saesneg) Adroddiad Gyan Goal 57'
Estádio Nacional Mané Garrincha, Brasília
Torf: 67,540
Dyfarnwr: Nawaf Shukralla Baner Bahrein

Grŵp H[golygu | golygu cod]

Tîm Chw E Cyf C + - GG Pt
Baner Gwlad Belg Gwlad Belg 3 3 0 0 4 1 +3 9
Baner Algeria Algeria 3 1 1 1 6 5 +1 4
Baner Rwsia Rwsia 3 0 2 1 2 3 -2 2
De Corea De Corea 3 0 1 2 3 6 -3 1
17 Mehefin 2014
17:00
Gwlad Belg Baner Gwlad Belg 2 – 1 Baner Algeria Algeria
Fellaini Goal 70'
Mertens Goal 80'
(Saesneg) Adroddiad Feghouli Goal 25' (c.o.s.)
Estádio Mineirão, Belo Horizonte
Torf: 56,800
Dyfarnwr: Marco Rodríguez Baner Mecsico

17 Mehefin 2014
23:00
Rwsia Baner Rwsia 1 – 1 De Corea De Corea
Kerzhakov Goal 74' (Saesneg) Lee Keun-ho Goal 68'
Arena Pantanal, Cuiabá
Torf: 37,603
Dyfarnwr: Néstor Pitana Baner Yr Ariannin

22 Mehefin 2014
17:00
Gwlad Belg Baner Gwlad Belg 1 – 0 Baner Rwsia Rwsia
Origi Goal 88' (Saesneg) Adroddiad
Arena Pantanal, Cuiabá
Torf: 73,819
Dyfarnwr: Felix Brych Baner Yr Almaen

22 Mehefin 2014
20:00
De Corea De Corea 2 – 4 Baner Algeria Algeria
Heung-Min Son Goal 50'
Koo Ja-cheol Goal 72'
(Saesneg) Adroddiad Slimani Goal 26'
Halliche Goal 28'
Djabou Goal 38'
Brahimi Goal 62'
Estádio Beira-Rio, Porto Alegre
Torf: 42,732
Dyfarnwr: Wilmar Roldán Baner Colombia

26 Mehefin 2014
21:00
De Corea De Corea 0 – 1 Baner Gwlad Belg Gwlad Belg
(Saesneg) Adroddiad Vertonghen Goal 78'
Arena de São Paulo, São Paulo
Torf: 61,397
Dyfarnwr: Ben Williams Baner Awstralia

26 Mehefin 2014
21:00
Algeria Baner Algeria 1 – 1 Baner Rwsia Rwsia
Slimani Goal 60' (Saesneg) Adroddiad Kokorin Goal 6'
Arena da Baixada, Curitiba
Torf: 39,311
Dyfarnwr: Cüneyt Çakır Baner Twrci

Rowndiau Olaf[golygu | golygu cod]

Rownd yr 16 Rownd yr Wyth Olaf Rownd Gynderfynol Rownd Derfynol
                           
28 Mehefin - Belo Horizonte            
 Baner Brasil Brasil (c.o.s.)  1 (3)
4 Gorffennaf - Fortaleza
 Baner Tsile Tsile  1 (2)  
 Baner Brasil Brasil  2
28 Mehefin - Rio de Janeiro
   Baner Colombia Colombia  1  
 Baner Colombia Colombia  2
8 Gorffennaf - Belo Horizonte
 Baner Wrwgwái Wrwgwái  0  
 Baner Brasil Brasil  1
30 Mehefin - Brasília
   Baner Yr Almaen yr Almaen  7  
 Baner Ffrainc Ffrainc  2
4 Gorffennaf - Rio de Janeiro
 Baner Nigeria Nigeria  0  
 Baner Ffrainc Ffrainc  0
30 Mehefin - Porto Alegre
   Baner Yr Almaen yr Almaen  1  
 Baner Yr Almaen yr Almaen (w.a.y.)  2
13 Gorffennaf - Rio de Janeiro
 Baner Algeria Algeria  1  
 Baner Yr Almaen yr Almaen (w.a.y.)  1
29 Mehefin - Fortaleza
   Baner Yr Ariannin yr Ariannin  0
 Baner Yr Iseldiroedd yr Iseldiroedd  2
5 Gorffennaf - Salvador
 Baner Mecsico Mecsico  1  
 Baner Yr Iseldiroedd yr Iseldiroedd (c.o.s.)  0 (4)
29 Mehefin - Recife
   Baner Costa Rica Costa Rica  0 (3)  
 Baner Costa Rica Costa Rica (c.o.s.)  1 (5)
9 Gorffennaf - São Paulo
 Baner Groeg Groeg  1 (3)  
 Baner Yr Iseldiroedd yr Iseldiroedd  0 (2)
1 Gorffennaf - São Paulo
   Baner Yr Ariannin yr Ariannin (c.o.s.)  0 (4)   Trydydd Safle
 Baner Yr Ariannin yr Ariannin (w.a.y.)  1
5 Gorffennaf - Brasília 12 Gorffennaf - Brasília
 Baner Y Swistir y Swistir  0  
 Baner Yr Ariannin yr Ariannin  1  Baner Brasil Brasil  0
1 Gorffennaf - Salvador
   Baner Gwlad Belg Gwlad Belg  0    Baner Yr Iseldiroedd yr Iseldiroedd  3
 Baner Gwlad Belg Gwlad Belg (w.a.y.)  2
 Baner Unol Daleithiau America UDA  1  

Rownd yr 16[golygu | golygu cod]

Am y tro cyntaf ers i'r twrnament ymestyn i 32 tîm llwyddodd pob un o enillwyr y grwpiau i gyrraedd rownd yr wyth olaf, sef pedwar o dimau UEFA, tri o CONMEBOL ac un o CONCACAF. Roedd angen amser ychwanegol ym mhump o'r gemau ac roedd angen ciciau o'r smotyn yn nwy o'r rhain. Llwyddodd Colombia a Costa Rica i gyrraedd rownd yr wyth olaf am y tro cyntaf yn eu hanes, gyda Gwlad Belg yn cyrraedd yr wyth olaf am y tro cyntaf ers 1986. Roedd pedwar cyn bencampwr - Brasil, Ffrainc, Yr Almaen a'r Ariannin - ymysg yr wyth olaf, ynghyd â'r Iseldiroedd, sydd wedi colli yn y rownd derfynol ar dair achlysur.

28 Mehefin 2014
17:00
Brasil Baner Brasil 1 – 1 (w.a.y.) Baner Tsile Tsile
David Luiz Goal 18' (Saesneg) Adroddiad Sánchez Goal 32'
  Ciciau o'r Smotyn  
David Luiz Penalty scored
Willian Penalty missed
Marcelo Penalty scored
Hulk Penalty missed
Neymar Penalty scored
3–2 Penalty missed Pinilla
Penalty missed Sánchez
Penalty scored Aránguiz
Penalty scored Díaz
Penalty missed Jara
Estádio Mineirão, Belo Horizonte
Torf: 57,714
Dyfarnwr: Howard Webb Baner Lloegr

28 Mehefin 2014
21:00
Colombia Baner Colombia 2 – 0 Baner Wrwgwái Wrwgwái
Rodríguez Goal 28' (50) (Saesneg) Adroddiad
Estádio do Maracanã, Rio de Janeiro
Torf: 73,804
Dyfarnwr: Björn Kuipers Baner Yr Iseldiroedd

29 Mehefin 2014
17:00
yr Iseldiroedd Baner Yr Iseldiroedd 2 – 1 Baner Mecsico Mecsico
Sneijder Goal 88'
Huntelaar Goal 90+4' (c.o.s.)
(Saesneg) Adroddiad dos Santos Goal 48'
Estádio Castelão, Fortaleza
Torf: 58,817
Dyfarnwr: Pedro Proença Baner Portiwgal

29 Mehefin 2014
21:00
Costa Rica Baner Costa Rica 1 – 1 (w.a.y.) Baner Groeg Groeg
Ruiz Goal 52' (Saesneg) Adroddiad Sokratis Goal 90+4'
  Ciciau o'r Smotyn  
Borges Penalty scored
Ruiz Penalty scored
González Penalty scored
Campbell Penalty scored
Umaña Penalty scored
5-3 Penalty scored Mitroglou
Penalty scored Christodoulopoulos
Penalty scored Holebas
Penalty missed Gekas
Arena Pernambuco, Recife
Torf: 41,242
Dyfarnwr: Ben Williams Baner Awstralia

30 Mehefin 2014
17:00
Ffrainc Baner Ffrainc 2 – 0 Baner Nigeria Nigeria
Pogba Goal 79'
Yobo Goal 90+2' (g.e.h.)
(Saesneg) Adroddiad
Estádio Nacional Mané Garrincha, Brasília
Torf: 67,882
Dyfarnwr: Mark Geiger Baner Unol Daleithiau America

30 Mehefin 2014
21:00
yr Almaen Baner Yr Almaen 2 – 0 (w.a.y.) Baner Algeria Algeria
Schürrle Goal 92'
Özil Goal 120'
(Saesneg) Adroddiad Djabou Goal 120+1'
Estádio Beira-Rio, Porto Alegre
Torf: 43,063
Dyfarnwr: Sandro Ricci Baner Brasil

1 Gorffennaf 2014
17:00
Yr Ariannin Baner Yr Ariannin 1 – 0 Baner Y Swistir y Swistir
Di Maria Goal 118' (Saesneg) Adroddiad
Arena de São Paulo, São Paulo
Torf: 63,255
Dyfarnwr: Jonas Eriksson Baner Sweden

1 Gorffennaf 2014
21:00
Gwlad Belg Baner Gwlad Belg 2 – 1 (w.a.y.) Baner Unol Daleithiau America UDA
De Bruyne Goal 93'
Lukaku Goal 105'
(Saesneg) Adroddiad Green Goal 107'
Arena Fonte Nova, Salvador
Torf: 51,227
Dyfarnwr: Djamel Haimoudi Baner Algeria

Rownd yr Wyth Olaf[golygu | golygu cod]

Am y tro cyntaf yn hanes Cwpan y Byd llwyddodd pob un o enillwyr y grwpiau i gyrraedd rownd yr wyth olaf. Llwyddodd Yr Almaen i drechu Ffrainc 1-0 a chyrraedd y rownd gynderfynol am y pedwerydd cystadleuaeth o'r bron a llwyddodd Brasil i guro Colombia 2–1, ond bydd Neymar yn colli gweddill y gystadleuaeth wedi iddo ddioddef anaf yn ystod y gêm. Cyrhaeddodd Yr Ariannin y pedwar olaf am y tro cyntaf ers 1990 ar ôl curo Gwlad Belg 1-0. Ac am yr ail dwrnament yn olynol cyrhaeddodd Yr Iseldiroedd y rownd gynderfynol ar ôl ennill ar giciau o'r smotyn yn erbyn Costa Rica.

4 Gorffennaf 2014
17:00
Ffrainc Baner Ffrainc 0 – 1 Baner Yr Almaen yr Almaen
(Saesneg) Adroddiad Hummels Goal 13'
Estádio do Maracanã, Rio de Janeiro
Torf: 74,240
Dyfarnwr: Néstor Pitana Baner Yr Ariannin

4 Gorffennaf 2014
21:00
Brasil Baner Brasil 2 – 1 Baner Colombia Colombia
Thiago Silva Goal 7'
David Luiz Goal 69'
(Saesneg) Adroddiad Rodríguez Goal 80' (c.o.s.)
Estádio Castelão, Fortaleza
Torf: 60,342
Dyfarnwr: Carlos Velasco Carballo Baner Sbaen

5 Gorffennaf 2014
17:00
Yr Ariannin Baner Yr Ariannin 1 – 0 Baner Gwlad Belg Gwlad Belg
Higuain Goal 8' (Saesneg) Adroddiad
Estádio Nacional Mané Garrincha, Brasília
Torf: 68,551
Dyfarnwr: Nicola Rizzoli Baner Yr Eidal

5 Gorffennaf 2014
21:00
yr Iseldiroedd Baner Yr Iseldiroedd 0 – 0 (w.a.y.) Baner Costa Rica Costa Rica
(Saesneg) Adroddiad
  Ciciau o'r Smotyn  
Van Persie Penalty scored
Robben Penalty scored
Sneijder Penalty scored
Kuyt Penalty scored
4-3 Penalty scored Borges
Penalty missed Ruiz
Penalty scored González
Penalty scored Bolaños
Penalty missed Umaña
Arena Fonte Nova, Salvador
Torf: 51,179
Dyfarnwr: Ravshan Irmatov Baner Wsbecistan

Rownd Gynderfynol[golygu | golygu cod]

Cafwyd y buddugoliaeth fwyaf yn hanes rowndiau terfynol Cwpan y Byd wrth i'r Almaen chwalu Brasil 7-1 a gwella ar fuddugoliaethau Yr Ariannin 6-1 Unol Daleithiau America (1930), Wrwgwái 6-1 Iwgoslafia (1930 a Gorllewin Yr Almaen 6-1 Awstria (1954). Dyma oedd colled fwyaf Brasil yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ers colli 3-0 yn erbyn Ffrainc yn rownd derfynol 1998. Am y tro cyntaf yn hanes Cwpan y Byd cafwyd gêm ddi-sgôr mewn rownd derfynol wrth i'r Ariannin a'r Iseldiroedd orfod cymryd ciciau o'r smotyn i'w gwahanu. Llwyddodd Yr Ariannin i oroesi gan sicrhau eu bod yn cadw eu record 100% mewn rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn dilyn buddugoliaethau ym 1978, 1986 a 1990 tra bo'r Iseldiroedd yn colli ar giciau o'r smotyn mewn rownd derfynol am yr ail dro ar ôl colli yn erbyn Brasil ym 1998.

8 Gorffennaf 2014
21:00
Brasil Baner Brasil 1 – 7 Baner Yr Almaen yr Almaen
Oscar Goal 90' (Saesneg) Adroddiad Müller Goal 11'
Klose Goal 23'
Kroos Goal 24'26'
Khedira Goal 29'
Schürrle Goal 69'79'
Estádio Mineirão, Belo Horizonte
Torf: 58,141
Dyfarnwr: Marco Rodríguez Baner Mecsico

9 Gorffennaf 2014
21:00
yr Iseldiroedd Baner Yr Iseldiroedd 0 – 0 (w.a.y.) Baner Yr Ariannin yr Ariannin
(Saesneg) Adroddiad
  Ciciau o'r Smotyn  
Vlaar Penalty missed
Robben Penalty scored
Sneijder Penalty missed
Kuyt Penalty scored
2-4 Penalty scored Messi
Penalty scored Garay
Penalty scored Agüero
Penalty scored Rodríguez
Arena de São Paulo, São Paulo
Torf: 63,267
Dyfarnwr: Cüneyt Çakır Baner Twrci

Trydydd Safle[golygu | golygu cod]

Gorffennodd Yr Iseldiroedd yn drydydd wrth drechu Brasil 3-0 yng ngêm y trydydd safle. Ildiodd Brasil 14 o goliau yn ystod y gystadleuaeth - record nid yn unig i Frasil, ond i unrhyw dîm cartref. Dyma'r nifer uchaf o goliau i unrhyw dîm ildio ers i Wlad Belg ildio 15 gôl yn ystod Cwpan y Byd 1986[19].

12 Gorffennaf 2014
21:00
Brasil Baner Brasil 0 – 3 Baner Yr Iseldiroedd yr Iseldiroedd
(Saesneg) Adroddiad Van Persie Goal l3' (c.o.s.)
Blind Goal 17'
Wijnaldum Goal 90+1'
Estádio Nacional Mané Garrincha, Brasília
Torf: 68,034
Dyfarnwr: Djamel Haimoudi Baner Algeria

Rownd Derfynol[golygu | golygu cod]

13 Gorffennaf 2014
20:00
yr Almaen Baner Yr Almaen 1 – 0 Baner Yr Ariannin yr Ariannin
Mario Götze Goal 113' (Saesneg) Adroddiad
Estádio do Maracanã, Rio de Janeiro
Torf: 74,738
Dyfarnwr: Nicola Rizzoli Baner Yr Eidal
Enillwyr Cwpan y Byd 2014
Yr Almaen
Yr Almaen
Pedwerydd Pencampwriaeth

Ystadegau[golygu | golygu cod]

Sgorwyr[golygu | golygu cod]

6 gôl

5 gôl

4 gôl

3 gôl

2 gôl

1 gôl

Gôl i'w rwyd ei hun

Goliau[golygu | golygu cod]

  • Nifer o goliau: 171
  • Cyfartaledd goliau pob gêm: 2.67
  • Sawl hat-tric: 2

Thomas Müller, Xherdan Shaqiri

  • Sgorio dwy gôl mewn un gêm: 14

Karim Benzema, Toni Kroos, Mario Mandžukić, Jackson Martínez, Lionel Messi, Ahmed Musa Neymar (2), Robin van Persie, Arjen Robben, James Rodríguez, André Schürrle Luis Suárez, Enner Valencia

  • Ciciau o'r smotyn wedi eu dyfarnu: 13
  • Ciciau o'r smotyn wedi eu sgorio: 12

Xabi Alonso, Karim Benzema, Edinson Cavani, Juan Guillermo Cuadrado, Sofiane Feghouli, Klas-Jan Huntelaar, Mile Jedinak, Thomas Müller, Neymar, Robin Van Persie, James Rodríguez, Georgios Samaras

  • Ciciau o'r smotyn wedi eu methu: 1

Karim Benzema

  • Nifer fwyaf o goliau gan dîm: 18

Yr Almaen,

  • Nifer fwyaf o goliau gan unigolyn: 6

James Rodríguez

  • Nifer fwyaf o goliau wedi eu hildio: 14

Brasil

  • Nifer lleiaf o goliau wedi eu hildio: 2

Gwlad Belg, Colombia, Costa Rica, Ffrainc

  • Nifer fwyaf o goliau mewn un gêm: 8

Brasil 1-7 Yr Almaen

  • Bwlch buddugoliaeth fwyaf: 6 gôl

Brasil 1-7 Yr Almaen

  • Nifer fwyaf o lechi glan gan dîm: 3

Costa Rica, Ffrainc, Yr Almaen, Yr Ariannin

Cardiau Coch[golygu | golygu cod]

Arian Gwobrwyo[golygu | golygu cod]

Cadarnhaodd FIFA bod US$576 miliwnar gael yn arian gwobrwyo (gan gynnwys US$70 miliwn ar gael i glybiau sydd â chwaraewyr yn chwarae yn y gystadleuaeth[20]. Roedd pob un o'r 32 o wledydd yn cael US$1.5 miliwn cyn y gystadleuaeth er mwyn paratoi a bydd gweddill yr arian yn cael ei rannu fel y ganlyn:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Goal-line technology in the spotlight at Maracana". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-06-17. Cyrchwyd 2014-07-02. Unknown parameter |puiblished= ignored (help)
  2. "2014 World Cup to be held in South America". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-18. Cyrchwyd 2014-06-11. Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Brazil confirmed as 2014 hosts". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-04-29. Cyrchwyd 2014-06-11. Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "Fifa qualifiers". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-16. Cyrchwyd 2014-06-11. Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. "Fifa Qualifiers". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-16. Cyrchwyd 2014-06-11. Unknown parameter |published= ignored (help)
  6. "Bahamas withdraw from 2014 World Cup qualifiers". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-08. Cyrchwyd 2014-06-11. Unknown parameter |published= ignored (help)
  7. "Mauritius out of Brazil 2014 qualifying". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-17. Cyrchwyd 2014-06-11. Unknown parameter |published= ignored (help)
  8. "World Cup seeds to be based on Hydref world ranking". Espn Fc. 2013-10-04. Cyrchwyd 12 Ionawr 2014.
  9. "Iran 0-0 Nigeria: Super Eagles play out World Cup's first goalless draw". 2014-06-16. Unknown parameter |published= ignored (help)
  10. "Group stage goal glut brightens World Cup". Deutsche Welle. 2014-06-26.
  11. "World Cup 2014: Statistical XI versus your tournament XI". 2014-0627. Unknown parameter |published= ignored (help); Check date values in: |date= (help)
  12. Yorke, Graeme (2014-06-24). "Spanish newspaper Marca react to early elimination from World Cup". Daily Mail.
  13. World Cup. "World Cup 2014: The shock of Spain's exit is still painfully raw but tiki-taka is not dead and new generation will arise". Telegraph. Cyrchwyd 2014-06-24.
  14. "England eliminated from World Cup in earliest exit since 1958". Huffingtonpost.com. 2014-06-20.
  15. "Italy's coach Prandelli offers to resign after exit". IBN Live. 2014-0625. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-06-28. Cyrchwyd 2014-06-30. Check date values in: |date= (help)
  16. 16.0 16.1 "Europe wakes up and smells the Brazilian coffee". Insideworldfootball.com. 2014-06-27. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-01. Cyrchwyd 2014-06-30.
  17. "History made for Algeria and Africa". eNews Channel Africa. 2014-06-27. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-09. Cyrchwyd 2014-06-30.
  18. "Asian teams sink to the bottom". The Hindu. 2014-06-27.
  19. "Brazil0-3 Netherlands". 2014-07-12. Unknown parameter |published= ignored (help)
  20. "World Cup money pot increased to $576m". 2013-12-05. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-19. Cyrchwyd 2014-07-04. Unknown parameter |published= ignored (help)

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]

Gwefan swyddogol (Saesneg)