Luis Suárez

Oddi ar Wicipedia
Luis Suárez

Suárez yn chwarae i dîm Olympaidd Wrwgwái yn 2011
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnLuis Alberto Suárez Díaz
Dyddiad geni (1987-01-24) 24 Ionawr 1987 (37 oed)
Man geniSalto, Wrwgwái
Taldra1.81m
SafleYmosodwr
Y Clwb
Clwb presennolF.C. Barcelona
Rhif9
Gyrfa Ieuenctid
2003–2005Nacional
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2005–2006Nacional27(10)
2006–2007Groningen29(10)
2007–2011Ajax110(81)
2011–2014Lerpwl110(69)
2014–F.C. Barcelona64(59)
Tîm Cenedlaethol
2006–2007Wrwgwái dan 204(2)
2007–Wrwgwái84(45)
2012Tîm pêl-droed Olympaidd Wrwgwái3(3)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 12 Mai 2014.

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 19 Mehefin 2014

Pêl-droediwr o Wrwgwái ydy Luis Suárez (ganwyd Luis Alberto Suárez Díaz ar 24 Ionawr, 1987) sy'n chwarae i Lerpwl yn Uwch Gynghrair Lloegr ac i Wrwgwái.

Ymunodd Suárez â thîm ieuenctid Nacional yn 14 mlwydd oed[1] gan ymddangos i'r tîm cyntaf am y tro cyntaf ym Mai 2005 pan yn 18 mlwydd oed yn erbyn Junior de Barranquilla o Colombia yng nghystadleuaeth y Copa Libertadores[1].

Roedd yn rhan o dîm Nacional enillodd Bencampwriaeth Wrwgwái yn 2005-06 cyn symud i Groningen o'r Iseldiroedd am €800,000 yn ystod yr haf 2006. Wedi dim ond tymor yn unig gyda Groningen, cynigiodd Ajax €3.5m amdano, ond gwrthododd Groningen y cynnig[2]. Roedd Suárez yn flin a daeth ag achos ger bron pwyllgor cyfamodi Cymdeithas Bêl-droed Yr Iseldiroedd (KNVB) er mwyn ceisio sicrhau ei drosglwyddiad[2]. Er i'r pwyllgor wrthod ei apêl, derbyniodd Groningen gynnig o €7.5m ar 9 Awst, 2007[3].

Yn ei bedwar tymor gydag Ajax llwyddodd i orffen yn brif sgoriwr yr Eredivisie yn 2009-10 gyda 35 gôl mewn 33 gêm[4] a chafodd ei enwi'n Chwaraewr y Flwyddyn Yr Iseldiroedd yn 2009 a 2010[5].

Yn Ionawr 2011, symudodd Suárez i Lerpwl am £22.8m.

Gwnaeth Suárez ei ymddangosiad cyntaf i Wrwgwái ar 8 Chwefror, 2007 mewn buddugoliaeth 3-1 dros Colombia, ond cafodd ei hel o'r maes wedi 85 munud am dderbyn ail gerdyn melyn[6].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 James Pearce (2011-02-09). "Luis Suarez's rise from the streets of Montevideo to Liverpool FC hero – part one". Liverpool Echo. Trinity Mirror. t. 2.
  2. 2.0 2.1 James Pearce (2011-02-09). "Luis Suarez's rise from the streets of Montevideo to Liverpool FC hero – part one". Liverpool Echo. Trinity Mirror. t. 4.
  3. "Ajax made to pay for Suárez". UEFA.com. UEFA. 2007-08-09.
  4. "The Luis Suarez story part two – new Liverpool FC star always one to hit the headlines". Liverpool Echo. Trinity Mirror. 2011-0-10. t. 2. Check date values in: |date= (help)
  5. Johannes Baas (3 Mai 2010). "Luis Suarez beste eredivisievoetballer van het jaar" (yn Dutch). Elsevier. Unknown parameter |trans_title= ignored (help)CS1 maint: unrecognized language (link)
  6. James Pearce (2011-09-02). "Luis Suarez's rise from the streets of Montevideo to Liverpool FC hero – part one". Liverpool Echo. Trinity Mirror. t. 3.


Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droediwr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.