Amser ychwanegol

Oddi ar Wicipedia

Mewn rhai chwaraeon, yn enwedig pêl-droed, cyfnod o chwarae ychwanegol er mwyn rhoi cyfle i dîm ennill yw amser ychwanegol. Fel rheol mae amser ychwanegol mewn gemau pêl-droed yn cael ei chwarae pan geir sgôr cyfartal ar ddiwedd y 90 munud arferol a phan fod rhaid cael enillydd yn y gêm.

Mewn pêl-droed chwaraeir dau hanner ychwanegol o 15 munud pob ffordd.

Os na cheir enillydd ar ddiwedd yr amser ychwanegol penderfynir y canlyniad trwy giciau o'r smotyn.

Talfyriadau arferol wrth gofnodi canlyniad gêm:

  • w.a.y. (wedi amser ychwanegol)
Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.