De America

Oddi ar Wicipedia
De America
Mathcyfandir, isgyfandir, endid tiriogaethol (ystadegol), rhanbarth Edit this on Wikidata
Poblogaeth385,742,554 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−06:00, UTC−05:00, UTC−04:00, UTC−03:00, UTC−02:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Arwynebedd17,843,000 km² Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd, Y Cefnfor Tawel, Môr y Caribî Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaCanolbarth America, Gogledd America, America Ganol Gyfandirol Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau21°S 59°W Edit this on Wikidata
Map
Delwedd cyfansawdd lloeren o Dde America

Mae De America yn gyfandir yn Hemisffer y Gorllewin rhwng y Cefnfor Tawel a'r Iwerydd. Mae'r rhan fwyaf ohono yn Hemisffer y De, gyda rhan gymharol fach yn Hemisffer y Gogledd. Gellir ei ddisgrifio hefyd fel "is-gyfandir deheuol yr Amerig" (Americas). Mae'r cyfeiriad at Dde America yn lle rhanbarthau eraill (fel America Ladin neu'r Côn Deheuol) wedi cynyddu yn ystod y degawdau diwethaf oherwydd dynameg geopolitical newidiol (yn benodol, cynnydd Brasil).[1]

Mae'r Cefnfor Tawel yn ffinio â De America yn y gorllewin ac i'r gogledd a'r dwyrain mae Cefnfor yr Iwerydd, Gogledd America a Môr y Caribî i'r gogledd-orllewin. Mae'r cyfandir yn gyffredinol yn cynnwys deuddeg talaith sofran: yr Ariannin, Bolifia, Brasil, Tsile, Colombia, Ecwador, Guyana, Paragwâi, Periw, Swrinam, Wrwgwái, a Feneswela; dwy diriogaeth ddibynnol: y Malvinas (neu 'Ynysoedd y Falkland') a De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De; ac un diriogaeth fewnol: Guyane. Mae tiriogaethau'r Caribî yn cael eu lleoli yng Ngogledd America gan ddaearyddwyr.

Enwyd De America ar ôl Amerigo Vespucci, yr Ewropead cyntaf i awgrymu nad India'r Dwyrain oedd yr Amerig, ond y Byd Newydd.

Mae gan De America arwynebedd o 17,820,000 km² (6,880,000 mi sg), neu tua 3.5% o arwynebedd y Ddaear. Yn 2005, amcangyfrifwyd fod y boblogaeth yn fwy na 371,200,000 ac erbyn 2017 roedd yn 423 miliwn.[2]Nodyn:Additional citation needed Dyma'r pedwerydd cyfandir o ran arwynebedd (ar ôl Asia, Affrica, a Gogledd America) a'r pumed o ran poblogaeth (ar ôl Asia, Affrica, Ewrop, a Gogledd America).

O ran arwynebedd, mae De America yn y pedwerydd safle (ar ôl Asia, Affrica, a Gogledd America) ac yn bumed yn ôl poblogaeth (ar ôl Asia, Affrica, Ewrop a Gogledd America). Brasil yw gwlad fwyaf poblog De America o bell ffordd, gyda mwy na hanner poblogaeth y cyfandir, ac yna Colombia, yr Ariannin, Venezuela a Periw. Yn ystod y degawdau diwethaf, mae Brasil hefyd wedi cynhyrchu hanner CMC y cyfandir ac wedi dod yn bŵer rhanbarthol cyntaf y cyfandir.[2]

Mae tarddiad diwylliannol ac ethnig y cyfandir yn tarddu yn y bobl frodorol yn ogystal â choncwerwyr a mewnfudwyr Ewropeaidd a yn y caethweision a gludwyd yma o Affrica. O ystyried hanes hir o wladychiaeth (colonialism), mae mwyafrif llethol De America yn siarad Portiwgaleg neu Sbaeneg, ac mae cymdeithasau a gwladwriaethau'n adlewyrchu traddodiadau'r Gorllewin. O'i gymharu ag Ewrop, Asia ac Affrica, mae De America yn yr 20g wedi bod yn gyfandir heddychlon heb lawer o ryfeloedd.[3]

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod]

Ymhlith y mannau mwyaf nodedig yn Ne America mae'r canlynol:

  • mae De America yn gartref i raeadr ddi-dor uchaf y byd, Angel Falls yn Fenwswela;
  • y rhaeadr fertig uchaf ( lle mae diferyn o ddwr yn syrthio heb darro yn erbyn craig) Rhaeadr Kaieteur yn Gaiana;
  • yr afon fwyaf yn ôl cyfaint yn y byd, Afon Amazonas;
  • y gadwen hiraf o fynyddoedd, yr Andes (gyda'i mynydd uchaf yn Aconcagua yn 6,962 m neu 22,841 tr);
  • y lle sychaf ar y ddaear (nad yw'n begynol), Anialwch yr Atacama;[4][5][6]
  • y lle gwlypaf ar y ddaear, López de Micay yng Ngholombia;
  • y fforest law fwyaf, fforest law yr Amazonas;
  • y brifddinas uchaf, La Paz, Bolifia;
  • y llyn mordwyol masnachol uchaf yn y byd, Llyn Titicaca; a chymuned barhaol fwyaf deheuol y byd (ac eithrio gorsafoedd ymchwil yn Antarctica), Puerto Toro, Tsile.

O ran mwynau, prif adnoddau De America yw aur, arian, copr, mwyn haearn, tun a phetroliwm. Mae'r adnoddau hyn wedi dod ag incwm uchel i'w gwledydd yn enwedig ar adeg rhyfel neu o dwf economaidd cyflym gan wledydd diwydiannol eraill. Fodd bynnag, mae cynhyrchu un nwydd, fel hyn, i'w allforio, yn aml wedi rhwystro datblygiad economïau y bobl gynhenid, yr amrywiaeth diwylliannol. Mae'r gwahaniaethau mawr ym mhris nwyddau yn y marchnadoedd rhyngwladol wedi arwain at uchafbwyntiau ac isafbwyntiau mawr yn economïau taleithiau De America, gan achosi ansefydlogrwydd gwleidyddol eithafol yn aml.

Machu Picchu, Periw un o berlau'r Inca, ac un o' Saith Ryfeddodau newydd y Ddaear.

Hinsawddd[golygu | golygu cod]

Yn y gwledydd tymherus, mae gaeafau a hafau'n fwynach nag yng Ngogledd America. Y rheswm am hyn yw bod y rhan fwyaf helaeth y cyfandir yn y parth cyhydeddol (mae gan y rhanbarth fwy o ardaloedd o wastadeddau cyhydeddol nag unrhyw le arall), gan roi mwy o ddylanwad cefnforol i'r Côn Deheuol, sy'n cymedroli tymereddau trwy gydol y flwyddyn.[7]

Mae'r tymereddau blynyddol cyfartalog ym masn yr Amazon yn pendilio oddeutu 27 °C (81 °F), gydag amplitudau thermol isel a mynegeion glawiad uchel. Rhwng Llyn Maracaibo a cheg yr Orinoco, ceir hinsawdd gyhydeddol o'r math Congo, sydd hefyd yn cynnwys rhannau o diriogaeth Brasil.

Gwledydd[golygu | golygu cod]

Gwledydd o Dde America
Gwledydd o Dde America

Tabl o wledydd, tiriogaethau a rhanbarthau[golygu | golygu cod]

Enw tiriogaeth,
efo baner
Arwynebedd
(km²)
Poblogaeth
(2005)
Dwysedd poblogaeth
(per km²)
Prifddinas
Brasil 8,511,965 203,062,512 (1 Awst 2022)[8] 21.9 Brasília
Ucheldiroedd Guiana:
Gaiana 214,970 777,859 (2017)[9] 3.6 Georgetown
Guiana Ffrengig 91,000 286,618 (1 Ionawr 2021) 2.1 Cayenne
Swrinam 163,270 563,402 (2017)[9] 2.7 Paramaribo
Gwledydd yr Andes:
Bolifia 1,098,580 11,051,600 (2017)[9] 8.1 La Paz
Ecwador 283,560 16,938,986 (2022)[10] 47.1 Quito
Periw 1,285,220 29,381,884 (2017)[11] 21.7 Lima
  > De America Caribïaidd:
Colombia 1,138,910 49,065,615 (2017)[9] 37.7 Bogotá
Feneswela 912,050 28,515,829 (2019) 27.8 Caracas
    > Ynysoedd Caribïaidd:
Trinidad a Tobago 5,128 1,369,125 (2017)[9] 212.3 Port of Spain
Côn Deheuol:
Paragwâi 406,750 6,811,297 (2017)[9] 15.6 Asunción
Wrwgwái 176,220 6,811,297 (2017)[9] 19.4 Montevideo
  > Patagonia:
Yr Ariannin 2,766,890 47,327,407 (2022)[12] 14.3 Buenos Aires
Tsile 756,950 19,458,000 (2021)[13] 21.1 Santiago de Chile
Chwiliwch am De America
yn Wiciadur.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Schenoni, Luis L. (1 Ionawr 1970). "Unveiling the South American Balance". Estudos Internacionais 2(2): 215–232.. https://www.academia.edu/12944490. Adalwyd 8 December 2016.
  2. 2.0 2.1 Schenoni, Luis L. (1 Ionawr 1970). "Unveiling the South American Balance". Estudos Internacionais 2(2): 215–232.. https://www.academia.edu/12944490. Adalwyd 8 Rhagfyr 2016.
  3. Holsti 1996, t. 155
  4. "Parts of Chile's Atacama Desert haven't seen a drop of rain since recordkeeping began. Somehow, more than a million people squeeze life from this parched land". National Geographic Magazine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-18. Cyrchwyd 18 April 2009.
  5. "Driest Place | Driest Desert Atacama Desert". Extremescience.com. 25 Ionawr 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 April 2009. Cyrchwyd 18 Ebrill 2009.
  6. McKay, C.P. (Mai–Mehefin 2002). "Two dry for life: The Atacama Desert and Mars". Ad Astra 14 (3): 30. http://quest.nasa.gov/challenges/marsanalog/egypt/AtacamaAdAstra.pdf.
  7. O CLIMA. In: Atlas Mundial. São Paulo: Cia. Melhoramentos de São Paulo, 1999, tt. 20–21 ISBN 85-06-02889-2
  8. https://agenciadenoticias.ibge.gov.br/agencia-noticias/2012-agencia-de-noticias/noticias/37237-de-2010-a-2022-populacao-brasileira-cresce-6-5-e-chega-a-203-1-milhoes.
  9. 9.0 9.1 9.2 9.3 9.4 9.5 9.6 https://data.worldbank.org/indicator/SP.POP.TOTL. dyddiad cyrchiad: 8 Ebrill 2019.
  10. "Ahora hay 16,9 millones de ecuatorianos, según el Censo". Cyrchwyd 22 Medi 2023.
  11. https://www.inei.gob.pe/media/MenuRecursivo/publicaciones_digitales/Est/Lib1544/Libro.pdf. dyddiad cyrchiad: 28 Hydref 2018.
  12. https://www.pagina12.com.ar/422916-la-poblacion-argentina-es-de-47-327-407-personas.
  13. https://datosmacro.expansion.com/paises/chile.