Petroliwm

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ffynnon olew yng Nghanada
Y petroliwm a gynhyrchwyd yn Tecsas.

Tanwydd ffosil yw petroliwm neu olew crai sy'n cael ei echdynnu o'r ddaear mewn gwledydd ar draws y byd, ond yn enwedig yn y Dwyrain Canol, Unol Daleithiau America, Rwsia a Feneswela. Mae'n adnodd anadnewyddadwy a ddefnyddir i wneud petrol, plastig ayyb. Mae petroliwm yn hylif tew brown tywyll fel arfer, sy'n cynnwys cymysgedd cymhleth o hydrocarbonau fflamadwy. Caiff y petroliwm ei buro trwy broses o ddistyllu ffracsiynol.

Mae pris olew yn gallu effeithio ar economi gwledydd y byd. Yn 2008 cafwyd argyfwng ariannol byd-eang yn dilyn codiad sydyn ym mhris petroliwm. Roedd olew hefyd wrth wraidd ymosodiad Iraq ar Kuwait yn Awst 1990, a'r Unol Daleithiau ar Iraq ychydig wedyn yn 1991.

Ffurfiant[golygu]

Mae dwy theori yn bodoli am ffurfiant olew: theori ffurfiant biolegol a theori ffurfiant anfiolegol. Y prif theori yw'r theori ffurfiant biolegol, a phrin yw'r daearegwyr sy'n cefnogi'r theori anfiolegol.

Theori ffurfiant biolegol[golygu]

Yn ôl y theori ffurfiant biolegol, casglodd micro-organebau morol marw ar waelod y môr. Gorchuddiwyd y gwaddodion organig hyn gan waddodion anathraidd. Ar ôl miliynau o flynyddoedd o dymheredd uchel a gwasgedd sylweddol, caiff y defnydd organig ei ffosileiddio i ffurfio olew crai trwy'r broses o bydredd anaerobig. Nid yw'r olew crai yn hydawdd mewn dŵr, ac mae'n llai dwys felly mae'n arnofio ar wyneb y dŵr. Wrth i ddŵr godi, mae'n gwthio'r olew i fyny tua'r wyneb nes caiff yr olew ei ddal mewn man lle mae'r creigiau athraidd yn cael eu gorchuddio gan greigiau anathraidd. Ffurfir cronfa olew mewn haen blyg o'r graig athraidd, ac mae'r olew yn cael ei ddal yma. Mae'r broses hon yn debyg iawn i broses ffurfiant nwy naturiol.

Hon yw'r theori sy'n cael ei gredu gan y mwyafrif llethol o wyddonwyr, yn enwedig y daearegwyr sy'n chwilio am gronfeydd olew newydd. Nid oes unrhyw gwmni olew ar hyn o bryd yn seilio eu rhaglen archwilio ar unrhyw theori ffurfiant arall.

Theori ffurfiant anfiolegol[golygu]

Yn ôl y theori hon ni ffurfiwyd olew o ddefnydd organig marw, ond o fethan a oedd ar ôl dan y ddaear ers ei ffurfiant. Mae'r moleciwlau biolegeol yn yr olew yn rhai sy'n dod o ficro-organebau yn y creigiau wrth iddynt gasglu yn yr olew.

Diwydiant[golygu]

Caiff yr olew crai ei echdynnu o'r ddaear gan gwmniau olew trwy ddrilio i lawr drwy'r creigiau anathraidd. Mae'r gwasgedd sylweddol yn y gronfa olew yn achosi i'r olew ddod i'r wyneb. Fel arfer, cludir yr olew i burfeydd olew ar long arbennig a elwir yn dancer olew neu drwy bibell cludo olew. Yn y purfeydd olew, caiff yr olew ei wahanu i'w rhannau trwy broses o ddistylliad ffracsiynnol. Mae'r broses hon yn gwahanu'r olew ar sail ei berwbwynt i arunigo nifer o ffracsiynnau gwahanol. Mae'r rhain yn cynnwys (yn nhrefn eu berwbwyntiau cynyddol) nwy petroliwm, petrol, nafftha, cerosin, diesel, olew iro, olew tanwydd, bitwmen a chynhyrchion olew eraill. Caiff y ffranciynnau hyn eu defnyddio fel tanwyddau (petrol, cerosin, diesel) neu fel ffynonellau o gemegau organig.

Mae'r mwyafrif o wledydd sydd yn cynhyrchu olew ar raddfa sylweddol yn aelodau o OPEC sydd yn ceisio dylanwadu ar bris olew crai rhyngwladol trwy reoli faint o olew caiff ei gynhyrchu drwy'r byd.

Ystadegau cynhyrchiad a threuliad olew[golygu]

Cynhyrchiad Treuliad
Cyfanswm y byd: 3450
Gwlad Cynhyrchiad
Sawdi Arabia 427
gwledydd yr Undeb Sofietaidd gynt 393
Unol Daleithiau America 359
Iran 186
Feneswela 172
Mecsico 171
Tsieina 163
Norwy 158
Irac 127
y Deyrnas Unedig 127
Canada 126
Emiradau Arabaidd Unedig 112
Nigeria 103
Kuwait 102
Libia 68
Algeria 66
Indonesia 65
Brasil 64
Oman 49
Yr Aifft 39
Angola 37

oddi wrth: Ystadegau gweinyddiaeth diwydiant Ffrainc
2000;
rhifau: miliwn tunnellau metrig

Cyfanswm y byd: 3531
Gwlad Treuliad
Unol Daleithiau America 881
Siapan 266
Tsieina 215
Gwledydd yr Undeb Sofietaidd gynt 187
yr Almaen 135
De Corea 100
India 94
Mecsico 93
Ffrainc 90
Brasil 89
Yr Eidal 89
Canada 86
y Deyrnas Unedig 83
Sbaen 64

oddi wrth: Ystadegau gweinyddiaeth diwydiant Ffrainc
1999;
rhifau: miliwn tunnellau metrig