Yemen
|
|||||
| Arwyddair: Allah, al-Watan, at-Thawra, al-Wehda Arabeg: "Duw, y Genedl, y Chwyldro, ac Undod" |
|||||
| Anthem: Y Weriniaeth Unedig | |||||
| Prifddinas | Sana'a | ||||
| Dinas fwyaf | Sana'a | ||||
| Iaith / Ieithoedd swyddogol | Arabeg | ||||
| Llywodraeth | Gweriniaeth | ||||
| Arlywydd Prif Weinidog |
Abd Rabbuh Mansur Al-Hadi Mohammed Basindawa |
||||
| Wedi cyfannu |
22 Mai, 1990 | ||||
| Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
527,968 km² (49fed) 0 |
||||
| Poblogaeth - Amcangyfrif 2005 - Dwysedd |
20,975,000 (51af) 40/km² (160fed) |
||||
| CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $19,480,000,000 (110fed) $900 (175fed) |
||||
| Indecs Datblygiad Dynol (2004) | 0.492 (150fed) – isel | ||||
| Arian cyfred | Rial Yemen (YER) |
||||
| Cylchfa amser - Haf |
(UTC+3) | ||||
| Côd ISO y wlad | .ye | ||||
| Côd ffôn | +967 |
||||
Gwlad yn ne-orllewin gorynys Arabia yw Gweriniaeth Yemen neu Yemen (Arabeg: اليَمَن Al Yaman). Y gwledydd cyfagos yw Saudi Arabia i'r gogledd ac Oman i'r dwyrain. Yn y de mae gan y wlad arfordir ar y Môr Coch a Gwlff Aden. Sana'a yw prifddinas y wlad.
Mae ganddi dros 555,000 km sgwâr o arwynebedd a phoblogaeth o tua 24 miliwn (2010). Mae ei ffiniau yn cwmpasu dros 200 o ynysoedd, y mwyaf o'r rheiny ydy Socotra a leolir tua 415 km i'r de o'r tir mawr, ac i ffwrdd o arfordir Somalia. Hi yw'r unig wlad arabaidd sydd a llywodraeth gweriniaethol.
[golygu] Daearyddiaeth
Mae'r wlad, sydd ag arwynebedd o 527,970 km sgwâr: tua'r un faint â Thailand - ac ychydig mwy na thalaith California, sy'n ei gwneud y 49fed gwlad mwyaf ei maint. Hyd at arwyddo cytundeb heddwch Yemen-Saudi Arabia yng Ngorffennaf 2000, roedd ei ffiniau'n annelwig gan na all pobl fyw yn y diffeithwch hwn. Gellir rhannu'r wlad, yn ddaearyddol, yn bedair rhan: gwastatiroedd arfordirol y gorllewin, ucheldiroedd y gorllewin, ucheldiroedd y dwyrain a Rub al Khali yn y dwyrain.
[golygu] Chwyldro 2011
Yn dilyn cynnau gwreichionen chwyldro Arabaidd Tunisia yn Rhagfyr 2011 a Gwanwyn 2011 ymledodd y protestiadau drwy nifer o wledydd y Dwyrain Canol gan gannwys Protestiadau yn Yemen, 2011. Ar yr un pryd gwelwyd chwyldro yn yr Aifft a llefydd eraill. Ar y cychwyn codwyd llais yn erbyn diweithdra, y cyflwr economaidd ac yn erbyn llygredd yn llywodraeth Yemen.[1] Cafwyd protestio hefyd yn erbyn bwriad y llywodraeth i newid cyfansoddiad Yemen. O fewn dyddiau bron, galwyd am ymddiswyddiad y Prif Weinidog Ali Abdullah Saleh. Trodd llawer o filwyr a swyddogion y llywodraeth at ochr y protestwyr. Ar y 23 Ebrill cytunodd Saleh i ymddiswyddo, ond gwrthododd i arwyddo'r cytundebau priodol; gwnaeth hyn dair gwaith.
|
|
|
|---|---|
| Aelodau | Yr Aifft · Algeria · Bahrain · Comoros · Djibouti · Yr Emiradau Arabaidd Unedig · Gwlad Iorddonen · Irac · Kuwait · Libanus · Libya · Mauritania · Moroco · Oman · Palesteina · Qatar · Saudi Arabia · Somalia · Sudan · Syria · Tunisia · Yemen |
| Arsyllwyr | Eritrea · India · Venezuela |