Aden

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Harbwr Aden tua 1910

Dinas a phorthladd yn Yemen yw Aden (Arabeg: عدن). Roedd y boblogaeth yn 2005 tua 590,000. Aden oedd prifddinas De Yemen tan yr uniad â Gogledd Yemen. Mae'n rhoi ei henw i Gwlff Aden.

Ar 19 Ionawr 1839, meddiannwyd Aden gan filwyr y Cwmni India'r Dwyrain Prydeinig. Roedd o bwysigrwydd strategol gan ei fod ar y ffordd i'r India.[1] Parhaodd y ddinas ym meddiant Prydain hyd 1967. Hyd 1937, roedd yn cael ei llywodraethu fel rhan o India, wedyn fel trefedigaeth ar wahan.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. (Saesneg) Aden (Yemen). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Awst 2014.