Venezuela
|
|||||
| Arwyddair: Dim | |||||
| Anthem: Gloria al Bravo Pueblo | |||||
| Prifddinas | Caracas | ||||
| Dinas fwyaf | Caracas | ||||
| Iaith / Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg | ||||
| Llywodraeth | Gweriniaeth ffederal | ||||
| - Arlywydd | Nicolás Maduro |
||||
| - Is-arlywydd | Jorge Arreaza |
||||
| Annibyniaeth • Oddi wrth Sbaen • Oddi Wrth Gran Colombia • Cydnabuwyd |
5 Gorffennaf 1811 21 Tachwedd 1831 30 Mawrth 1845 |
||||
| Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
916,445 km² (33fed) 0.3 |
||||
| Poblogaeth - Amcangyfrif 2013 - Cyfrifiad 2011 - Dwysedd |
30,212,252 (43fed) 28,946,101 33/km² (175fed) |
||||
| CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $163.503 triliwn (51af) $6,186 (95fed) |
||||
| Indecs Datblygiad Dynol (2003) | 0.772 (75fed) – canolig | ||||
| Arian cyfred | Bolívar Venezuela (VEB) |
||||
| Cylchfa amser - Haf |
AST (UTC-4:30) | ||||
| Côd ISO y wlad | .ve | ||||
| Côd ffôn | +58 |
||||
Gwlad yn Ne America yw Gweriniaeth Folivaraidd Venezuela neu Venezuela (hefyd Feneswela). Yr enw swyddogol yw República Bolivariana de Venezuela, er côf am Simón Bolívar.
Tarddiad a hanes yr enw [golygu]
Mae'r enw Feneswela ei hun yn golygu "Fenis Fechan". Ym 1499 cyrhaeddodd Alonso de Ojeda ac Américo Vespucio i'r bae - a elwir heddiw yn Fae Feneswela, a gwelsant dai'r brodorion oedd wedi eu hadeiladu uwchben y môr. Roedd yr olygfa yn atgoffa Ojeda am ddinas Fenis.
Economi [golygu]
Mae'r sector petrolewm yn dominyddu'r economi, yn cyfri am tua traen o'r GDP, tua 80% o'r elw allforio, a mwy na hanner o gyllidau gweithredol y llywodraeth. Mae'r sector yn gweithredu trwy Petroleos de Venezuela (sy'n berchnen i'r llywodraeth), sydd o fewn pethau eraill yn bua'r dosbarthydd Americanaidd Citgo, sydd â 14,000 o orsafoedd petrol yn yr Unol Daleithiau.
Mae Venezuela hefyd yn dibynnu llawer ar y sector amaethyddol. Mae gan Venezuela'r gallu i allforio coffi a cocoa ar raddfa fawr.
Venezuela yw un o bump aelodau gwreiddiol y cartel olew rhyngwladol OPEC . Syniad Juan Pablo Pérez Alfonzo oedd y menter ei hun, menter a gynnigwyd fel ymateb i brisiau olew mewnwladol a rhyngwladol isel mis Awst 1960.
