Bonaire

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Bonaire

Ynys ym Môr y Caribî sy'n perthyn i Deyrnas yr Iseldiroedd yw Bonaire. Mae'n un o'r Ynysoedd ABC, sydd hefyd yn cynnwyd Aruba a Curaçao. Saif ychydig i'r gogledd o arfordir Venezuela, ac roedd y boblogaeth yn 13,389 yn 2010. Y brifddinas yw Kralendijk. Iseldireg yw'r iaith swyddogol, ond cydnabyddir Papiamento hefyd. Ger ei harfordir gorllewinol, mae ynys fechan Klein Bonaire.

Y boblogaeth frodorol oedd y Caiquetio, a gyrhaeddodd o Venezuela tua 1000. Yn 1499 glaniodd Alonso de Ojeda ac Amerigo Vespucci, a feddiannodd yr ynys i Sbaen. Cipiwyd yr ynys gan yr Iseldirwyr yn 1633. Yn yr 20fed ganrif, adeiladwyd maes awyr rhyngwladol, Maes Awyr Flamingo.

Maes Awyr Flamingo
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill