Antilles yr Iseldiroedd

Oddi ar Wicipedia
Antilles yr Iseldiroedd
Mathgwlad Brenhiniaeth yr Iseldiroedd, gwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
PrifddinasWillemstad Edit this on Wikidata
Poblogaeth197,041 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 15 Rhagfyr 1954 Edit this on Wikidata
AnthemWilhelmus van Nassouwe Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−04:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Iseldireg, Papiamento, Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDutch colonial empire Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd
Arwynebedd800 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaFfrainc Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau15°N 66°W Edit this on Wikidata
Map
ArianNetherlands Antillean guilder Edit this on Wikidata

Rhan o Deyrnas yr Iseldiroedd ym Môr y Caribî oedd Antilles yr Iseldiroedd. Cynhwysodd y diriogaeth ddau grŵp o ynysoedd: Arwba, Curaçao a Bonaire oddi ar arfordir Feneswela a Sint Eustatius, Saba a Sint Maarten (hanner deheuol ynys Saint Martin) tua 800 km i'r gogledd-ddwyrain. Willemstad, ar ynys Curaçao, oedd y brifddinas a'r ddinas fwyaf.

Gadawodd Arwba Antilles yr Iseldiroedd ym 1986. Rhwng 2000 a 2005, pleidleisiodd y gweddill o'r ynysoedd i ddiddymu'r undeb. Ar 10 Hydref 2010, daeth Curaçao a Sint Maarten yn wledydd ymreolaethol tu fewn i Deyrnas yr Iseldiroedd. Daeth Bonaire, Sint Eustatius a Saba yn fwrdeistrefi arbennig o dan reolaeth uniongyrchol yr Iseldiroedd.

Map o'r ynysoedd ar ôl ymwahaniad Arwba.

Mae'n aelod o'r Taalunie - corff uno'r iaith Iseldireg.

Eginyn erthygl sydd uchod am y Caribî. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato