Caracas
Oddi ar Wicipedia
Caracas yw prifddinas Venezuela. Saif yng ngogledd y wlad, gerllaw'r arfordir a'r Caribî. Llifa afon Guaire trwy'r ddinas. Roedd y boblogaeth yn 2001 tua 1.8 miliwn, ond mae poblogaeth yr ardal ddinesig tua 5 miliwn.
Sefydlwyd y ddinas yn 1567 fel Santiago de León de Caracas gan y fforwir Sbaenig Diego de Losada. Dynodwyd prif gampws y Brifysgol, Dinas Brifysgol Catacas (Ciudad Universitaria de Caracas) fel Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Iglesia de San Francisco (eglwys)
- Mosg Sheikh Ibrahim Al-Ibrahim
- Pantheon Genedlaethol
Enwogion [golygu]
- Francisco de Miranda (1750-1816), milwr
- Simón Bolívar (1783-1830), milwr a gwleidydd
- Antonio Guzmán Blanco (1829-1899), gwleidydd