San Francisco

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
San Francisco
SF From Marin Highlands3.jpg
California county map (San Francisco County enlarged).svg
Lleoliad o fewn Califfornia
Gwlad Unol Daleithiau America
Ardal Califfornia
Llywodraeth
Awdurdod Rhanbarthol Sir a thalaith wedi cyfuno
Maer Gavin Newsom
Daearyddiaeth
Arwynebedd 600.7 km²
Uchder 52 troedfedd (16 medr) m
Demograffeg
Poblogaeth Cyfrifiad 808,976 (Cyfrifiad 2008)
Dwysedd Poblogaeth 6,688.4 /km2
Metro 4,203,898
Gwybodaeth Bellach
Cylchfa Amser PST (UTC-8)
Cod Post 94101–94112, 94114–94147, 94150–94170, 94172, 94175, 94177
Gwefan http://www.sfgov.org

Dinas yng Nghalifornia yn Unol Daleithiau America yw San Francisco (Dinas a Swydd San Francisco). Dyma yw'r bedweredd ddinas mwyaf poblog yng Nghaliffornia a'r drydedd ddinas ar ddeg mwyaf poblog yn yr Unol Daleithiau, gyda 744,230 o bobl yn byw yn y ddinas a 7,533,384 o bobl yn byw yn Ardal Bae San Francisco. San Francisco yw'r ddinas gyda'r dwysedd poblogaeth fwyaf yn y dalaith a'r ddinas gyda dwysedd ail fwyaf yn yr Unol Daleithiau. Lleolir y ddinas ar ben pellaf penrhyn San Francisco, gyda'r Cefnfor Tawel i'r gorllewin iddi a Bae San Francisco i'r gogledd a'r dwyrain.

Ym 1776, sefydlodd y Sbaenwyr amddiffynfa wrth y Golden Gate a chenhadaeth a enwyd ar gyfer Ffransis o Assisi. Yn sgîl y Rhuthr am Aur ym 1849, aeth y ddinas trwy gyfnod o dŵf cyflym, a drawsnewidiodd y ddinas nes ei bod y ddinas fwyaf ar yr Arfordir Orllewinol ar y pryd. Ym 1906, cafodd San Francisco ei tharo gan ddaeargryn a thân a chafodd mwy na 3,000 o bobl eu lladd a rhan helaeth o'r ddinas ei dinistrio. Ail-adeiladwyd y ddinas yn gyflym, gan gynnal Arddangosfa Ryngwladol Panama-Pasiffig naw mlynedd yn ddiweddarach. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, San Francisco oedd y man ffarwelio ar gyfer nifer o filwyr. Pan ddaeth y rhyfel i ben, arweiniodd y don o filwyr yn dychwelyd, mewnfudiad enfawr, agweddau rhyddfrydol, a ffactorau eraill at yr Haf o Gariad a'r mudiad hawliau hoyw, gan gadarnhau statws San Francisco fel canolfan rhyddfrydol yn yr Unol Daleithiau.

Erbyn heddiw, mae San Francisco yn ganolfan ryngwladol o ran y byd ariannol, cludiant a diwylliannol. Mae'r ddinas hefyd yn gyrchfan gwyliau poblogaidd i dwristiaid sy'n enwog am ei niwl hafaidd, bryniau serth niferus, ei chymysgedd o bensaernïaeth Fictoraidd a modern a thirnodau bydenwog fel Pont Golden Gate, ei cherbydau ceblau a Thref Tsieina.

Daearyddiaeth[golygu]

Penrhyn San Fransisco

Lleolir San Francisco ar arfordir gorllewinol yr Unol Daleithiau, ar ddiwedd Penrhyn San Francisco, ac mae'n cynnwys rhannau helaeth o'r Cefnfor Tawel a Bae San Francisco o fewn ei ffiniau. Mae sawl ynys, Alcatraz, Treasure Island, a'r Ynys Yerba Buena gyferbyn, a rhannau bychain o ynys Alameda, Ynys y Garreg Goch, ac Ynys yr Angylion i gyd yn rhan o'r ddinas. Yn fras, mae'r prif dir o fewn ffiniau'r ddinas yn cynnwys "sgwâr saith milltir gyda saith milltir," yn ôl y trigolion lleol, er mewn gwirioedd mae arwynebedd y ddinas, gan gynnwys y dŵr yn 232 milltir sgwâr (600 km2).

Mae San Francisco yn enwog am ei bryniau. Ceir yno dros 50 o fryniau o fewn ffiniau'r ddinas. Enwyd rhai cymdogaethau ar ôl y bryn lle maent wedi eu lleoli, gan gynnwys Nob Hill, Pacific Heights, a Russian Hill. Yn agos i ganolbwynt ddaearyddol y ddinas, i'r de-orllewin o ardal "downtown", ceir nifer o fryniau llai poblog. Mae Twin Peaks, sy'n bâr o fryniau yn un o fannau uchaf y ddinas, yn fan poblogaidd i weld y ddinas. Mae bryn mwyaf San Francisco, Mount Davidson, yn 925 troedfedd (282 m) o uchder ac ar ei ben mae yna groes 103 troedfedd (31 m) o uchder, a adeiladwyd ym 1934. Dominyddir yr ardal hon hefyd gan Dŵr Sutro, tŵr darlledu radio a theledu coch a gwyn.

Maes awyr y ddinas.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu]

Pobl o San Francisco[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: