New Orleans
Oddi ar Wicipedia
| New Orleans | |
|---|---|
| Lleoliad o fewn talaith Louisiana | |
| Gwlad | Unol Daleithiau America |
| Ardal | Orleans |
| Llywodraeth | |
| Maer | Mitch Landrieu |
| Daearyddiaeth | |
| Arwynebedd | 907 km² |
| Uchder | -2 i 6 m m |
| Demograffeg | |
| Poblogaeth Cyfrifiad | 469,605 (Cyfrifiad 2009) |
| Dwysedd Poblogaeth | 973 /km2 |
| Metro | 1,030,363 |
| Gwybodaeth Bellach | |
| Cylchfa Amser | CST (UTC-6) |
| Cod Post | 504 |
| Gwefan | http://www.cityofno.gov |
Dinas borthladd bwysig yn yr Unol Daleithiau a dinas fwyaf talaith Louisiana yw New Orleans.
Lleolir New Orleans yn ne-ddwyrain Louisiana, ar lan afon Mississippi. Enwyd y ddinas yn La Nouvelle-Orléans (New Orleans) ar ôl Philippe II, Dug Orléans, pan oedd Louisiana yn wladfa Ffrengig, ac mae'n un o ddinasoedd hynaf yr Unol Daleithiau. Mae'r ddinas yn enwog iawn am ei hetifeddiaeth amlddiwylliannol ac amlieithog, ei bwyd, pensaernïaeth, cerddoriaeth (yn benodol fel y man lle dechreuodd cerddoriaeth jazz) a'i Mardi Gras blynyddol yn ogystal â gwyliau a dathliadau eraill. Yn aml, cyfeirir at y ddinas fel yr un "mwyaf unigryw" yn yr Unol Daleithiau.
Cafodd ei daro'n drwm gan Gorwynt Katrina yn 2005.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Amgueddfa'r Ail Rhyfel Byd
- Y Cabildo
- Canolfan Ernest N. Morial
- Eglwys Gadeiriol Sant Louis
- Piazza d'Italia
- Y Presbytere
- Sŵ Audubon
Enwogion [golygu]
- Sidney Bechet (1897-1959), cerddor a chyfansoddwr
- Louis Prima (1910-1978), cerddor
- Dr. John (g. 1940), cerddor
- Reese Witherspoon (g. 1976), actores
- Lil Wayne (g. Medi 1982), cerddor