Madrid
| Madrid | |
|---|---|
| Lleoliad o fewn Sbaen | |
| Gwlad | Sbaen |
| Ardal | Cymuned Madrid |
| Llywodraeth | |
| Maer | Alberto Ruiz-Gallardón |
| Daearyddiaeth | |
| Arwynebedd | 607 km² |
| Uchder | 2,188 troedfedd (667 medr) m |
| Demograffeg | |
| Poblogaeth Cyfrifiad | 3,228,359 (Cyfrifiad 2005) |
| Dwysedd Poblogaeth | 5,198 /km2 |
| Metro | 7,061,748 |
| Gwybodaeth Bellach | |
| Cylchfa Amser | CET (UTC+1) |
| Cod Post | 28001-28080 |
| Gwefan | http://www.munimadrid.es (Sbaeneg) |
Prifddinas Sbaen a phrifddinas yr ardal Comunidad Autónoma de Madrid yw Madrid. Madrid yw'r drydedd ddinas fwyaf poblog yn yr Undeb Ewropeaidd ar ôl Llundain Fwyaf a Berlin, a'i hardal fetropolitanaidd yw'r drydedd ddinas fwyaf poblog am ardal ddinesig yn yr Undeb Ewropeaidd ar ôl Paris a Llundain.
Lleolir y ddinas ar lannau'r afon Manzanares yng nghanol y ddinas a Comunidad Autónoma de Madrid (sy'n cynnwys dinas Madrid, ei chytrefi a'i maesdrefi a phentrefi ehangach); ffinia'r gymuned hon gyda chymunedau hunan-lywodraethol Castile and León a Castile-La Mancha.
Fel prifddinas Sbaen, lleoliad y llywodraeth a chartref y brenin Sbaenig, Madrid yw canolbwynt gwleidyddol y wlad hefyd. Ar hyn o bryd, mae maer y ddinas Alberto Ruiz-Gallardón, sydd wedi bod yn gwneud y swydd ers 2003, yn aelod o Blaid y Bobl. Yn ystod yr etholiadau lleol yn 2007, cynyddodd Ruiz-Gallardón fwyafrif Plaid y Bobl ar Gyngor y Ddinas i 34 sedd allan o 57, gan gipio 55.5% o'r bleidlais a chan ennill ymhob ardal ag eithrio dwy.