Toledo

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arfbais Toledo
Golygfa o Toledo.

Mae Toledo (o'r Lladin Toletum) yn ddinas yng nghanolbarth Sbaen. Mae'n brifddinas y dalaith o'r un enw, ac hefyd yn brifddinas cymuned ymreolaethol Castilla-La Mancha. Saif ar lan Afon Tajo. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 77,601; mae wedi cynyddu'n gyflym yn y blynyddoedd diwethaf gan fod Toledo yn awr o fewn ugain munud i Madrid ar y tren cyflym.

Sefydlwyd Toledo gan y Celtiberiaid. Yn 193 CC. cipiwyd y ddinas gan y Rhufeiniaid dan Marco Fulvio Nobilior, ac fel tref Rufeinig daeth yn ganolfan bwysig i'r diwydiant haearn. Cipiwyd y ddinas gan yr Alaniaid yn 411, yna gan y Fisigothiaid yn 418. Yn 711 cipiwyd hi gan fyddin Islamaidd Tarik, a daeth yn ddinas Islamaidd dan yr enw Tulaytulah (Arabeg طليطلة). Yn ddiweddarach daeth Toledo yn deyrnas Islamaidd annibynnol, ond ar 25 Mai 1085, ildiwyd y dinas i Alfonso VI, brenin León a Castilla. Mae'r hen ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd.

Toledo

Pobl enwog cysylltiedig a Toledo[golygu]