Lladin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Wikipedia
Argraffiad Lladin Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd
Geiriadur Lladin

Lladin yw hen iaith Rhufain. Lladin oedd sylfaen yr ieithoedd Romáwns (Ffrangeg, Sbaeneg, Eidaleg, Portiwgaleg, Rwmaneg ayyb.), a chafodd gryn dipyn o ddylanwad ar ieithoedd eraill Ewrop. Defynyddid Lladin fel lingua franca ysgolheictod ledled Ewrop trwy'r oesoedd canol a'r dadeni dysg, ac yn oedfaon Eglwys Rufain hyd at 1962.

Hanes[golygu]

Prif erthygl: Hanes Lladin.

Mae Lladin yn aelod o gangen yrieithoedd Italaidd. Yn y 9fed neu'r 8fed ganrif C.C, daeth llwythau â'r ieithoedd Italaidd i Benryn yr Eidal ac fe ddatblygodd y dafodiaith a siaredid yn Latium ar lân yr Afon Tiber yn Ladin yn ddiweddarach.

Er bod y rhan fwyaf o lenyddiaeth Rufeinig wedi'i hysgrifennu yn Lladin Clasurol, roedd y ffurf a siaredid yn Ymerodraeth Orllewinol Rhufain yn wahanol i Ladin Clasurol yn ei gramadeg, geirfa ac ynganiad, ac fe'i gelwir yn Lladin Llafar. Datblygodd y tafodieithoedd hyn i fod yr ieithoedd Romáwns.

Orgraff[golygu]

Prif erthygl: Wyddor Ladin.
Cyflun o'r hen lawysgrifen Rhufeinig.

Er mwyn ysgrifennu yn Lladin, defnyddiai'r Rhufeiniaid yr Wyddor Ladin, a darddodd o'r Hen Wyddor Italaidd, a darddodd o'r Wyddor Roeg yn wreiddiol. Heddiw mae'r Wyddor Ladin yn bucheddu fel systemau ysgrifennu'r ieithoedd Romáwns, Celtaidd, Germanaidd, rhai o'r ieithoedd Slafeg a rhan fwyaf o ieithoedd bychain y byd.

Ni ddefnyddiai'r Rhufeiniaid hynafol atalnodi ac felly byddai frawddeg a ysgrifennwyd yn wreiddiol fel:

LVGETEOVENERESCVPIDINESQVE

yn cael ei hysgrifennu mewn argraffiad cyfoes fel:

Lugete, O Veneres Cupidinesque

neu gyda macron

Lūgēte, Ō Venerēs Cupīdinēs

sy'n cyfieithu i'r Gymraeg fel:

Galar, O! gariadon a deheuadau!

Fel arfer ni roddwyd bylchau rhwng geiriau mewn dogfenni ffurfiol.

Etifeddiaeth[golygu]

Pan ledai'r Ymerodraeth Rufeinig drwy Ewrop dechreuodd Lladin Llafar ddatblygu i mewn i dafodieithoedd gwahanol. Erbyn y 9fed ganrif esblygasai Lladin Llafar i mewn i'r ieithoedd Romáwns. Am nifer o ganrifoedd yn ddiweddarach roedd yr Ieithoedd Romáwns yn ieithoedd llafar yn unig, gyda Lladin Clasurol yn cael ei defnyddio fel iaith ysgrifenedig o hyd. Er enghraifft defnyddid Lladin fel iaith swyddogol ym Mhortiwgal hyd nes 1296 pan gafodd ei disodli gan Bortiwgaleg.

Eidaleg yw'r iaith fwyaf ceidwadol yn ei geirfa Ladin,[1] a Sardiniaidd yw'r iaith fwyaf ceidwadol yn nhermau'i ffonoleg.[2]

Defnyddiwyd rhai o'r gwahaniaethau rhwng Lladin Clasurol a'r ieithoedd Romáwns i geisio ail-greu Lladin Llafar. Er enghraifft, mae gan yr ieithoedd Romáwns bwyslais ar sillafau penodol a oedd yn bresennol yn Lladin yn ogystal â'r hyd croyw ar lafariaid. Yn Eidaleg, mae yna hyd croyw ar gytseiniaid yn ogystal â phwyslais; yn Sbaeneg a Phortiwgaleg dim ond pwyslais croyw sydd; tra yn Ffrangeg nid yw hyd na phwyslais yn groyw rhagor. Gwahaniaeth mawr rhwng Lladin a Romáwns yw bod yr Ieithoedd Romáwns wedi colli'r holl ffurfdroadau cyflwr.[3]

Mae yna ychydig o eiriau Lladin yn Gymraeg, yn enwedig geiriau crefyddol; llyfr, beibl, eglwys, credo; yn ogystal â geiriau gwyddonol a fenthycwyd yn ddiweddar.

Gramadeg[golygu]

Prif erthygl: Gramadeg Lladin.

Mae Lladin yn iaith synthetig ac ymasiadol gyda lefelau uchel o ffurfdroad enwol a berfol. Mae enwau yn gogwyddo i mewn i 7 cyflwr; gwrthrychol, goddrychol, derbynniol, genidol, abladol, cyfarchol a chyfryngol (gyda ffurfiau lleol o rai enwau lleoedd yn Rhufain Hynafol); gyda phum grŵp gogwyddiad. Mae berfau Lladin yn ffurfdroi yn ôl person, amser a modd gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn cwympo i mewn i un o'r pedwar grŵp rhediad. Nid oes banodau gan Ladin ac felly ni wahaniaethir rhwng enwau pendant ac amhendant, er enghraifft fe ddefnyddir yr un gair i gynrychioli "y ferch" a "merch"; puella.

Y gystrawen gyffrednol yw Goddrych Gwrthrych Berf, ond mae'n newid yn aml ym marddoniaeth a rhyddiaith ar gyfer effaith neu bwyslais. Mae Lladin yn defnyddio rhagddodiaid ac fel arfer fe leolir ansoddeiriau ar ôl enwau. Yn aml fe ollyngir rhagenwau oherwydd fe ellir dadansoddi'r person o'r rhediad neu'r genedl; fe ddefnyddir rhagenwau ond pan nad yw'r ystyr yn hollol amlwg.

Brawddegau[golygu]

  • Veni, vidi, vici: Deuthum, gwelais, trechais.
  • Da mihi cerevisiam celeriter: Rhowch imi gwrw yn gyflym.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Grimes, Barbara F.. Barbara F. Grimes. ed. Consulting Editors: Richard S. Pittman & Joseph E. Grimes. ISBN 1-55671-026-7. 
  2. Foreign Languages: Italian, yn enewedig, "Sardinian in fact conserves many archaic features from Latin which disappeared in Italian, such as the hard k-sound in words like chelu, where Italian has cielo."
  3. Columbia University Language Resource Center

Gweler Hefyd[golygu]

Gramadeg Lladin
Gogwyddiad Lladin
Rhediad Lladin
Rhestr awduron Lladin
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Lladin
yn Wiciadur.