La Habana
Oddi ar Wicipedia
La Habana (enw llawn San Cristóbal de La Habana (Saesneg: Havana)) yw prifddinas Cuba. Hi yw'r ddinas fwyaf ar yr ynys, gyda phoblogaeth o 2.2 miliwn.
Yn 1515, sefydlodd y Sbaenwr Diego Velázquez de Cuéllar ddinas dan yr enw La Habana yn ne-ddwyrain yr ynys. Bedair blynedd yn ddiweddarach, symudwyd y ddinas i'w lleoliad presennol, ac yn 1607 daeth yn brifddinas yr ynys. Datblygodd i fod yn borthladd pwysicaf Sbaen yn y Byd Newydd.
Mae rhan hynaf o'r ddinas wedi ei dynodi gan UNESCO fel Safle Treftadaeth y Byd oherwydd y nifer fawr o hen adeiladau.