Manila
Oddi ar Wicipedia
Prifddinas y Pilipinas yw Manila (Tagalog: Maynila). Saif ar arfordir gorllewinol Ynys Luzon, ar Fae Manila. Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 1,660,714, tra'r oedd poblogaeth yr ardal ddinesig, Metro Manila, tua 11.5 miliwn. Manila ei hun yw ail ddinas y Pilipinau o ran maint, mae Dinas Quezon yn yr ardal ddinesig yn fwy. Saif y ddinas ar lan afon Pasig.
Yn wreiddiol roedd Manila yn bentref pysgotwyr, ond tydodd i fod yn swltaniaeth. Cipiwyd hi gan y Sbaenwyr dan Martin de Goiti yn 1570, ac yn 1595 enwodd y Sbaenwyr Manila fel prifddinas y Pilipinas.