Shanghai
Oddi ar Wicipedia
| Shanghai | |
|---|---|
| Lleoliad o fewn Tsieina | |
| Gwlad | Tsieina |
| Ardal | Bwrdeisdref Shanghai |
| Llywodraeth | |
| Awdurdod Rhanbarthol | Bwrdeisdref Plaid Gomiwnyddol Tsieina |
| Maer | Han Zheng |
| Daearyddiaeth | |
| Arwynebedd | 7,037 km² |
| Uchder | 4 m |
| Demograffeg | |
| Poblogaeth Cyfrifiad | 18,884,600 (Cyfrifiad 2008) |
| Dwysedd Poblogaeth | 2,683.6 /km2 |
| Gwybodaeth Bellach | |
| Cylchfa Amser | UTC+8 |
| Cod Post | 200000 – 202100 |
| Gwefan | [1] |
Shanghai (Tsieineeg: 海|海
Shànghǎi ?/i ) yw dinas fwyaf Gweriniaeth Pobl China. Saif ar lan Afon Yangtze yn nwyrain China. Gyda phoblogaeth o 20,609,000 yn yr ardal ddinesig, saif yn wythfed o ran dinasoedd y byd yn ôl poblogaeth. Yn ogystal, mae Shanghai yn ddinas hunanlywodraethol gyda statws tebyg i dalaith.
Mae Shanghai yn un o borthladdoedd prysuraf y byd, ac mae wedi bod yn ganolbwynt i gynnydd economaidd China yn y blynyddoedd diwethaf.
Cofnodir tŵf Shanghai o'r 10fed ganrif ymlaen. Adeiladwyd muriau'r ddinas yn 1553, ond dim ond yn y 19eg ganrif y daeth yn ddinas bwysig.
| Israniadau gweinyddol Gweriniaeth Pobl Tsieina | |
|---|---|
| Taleithiau | Anhui • Fujian • Gansu • Guangdong • Guizhou • Hainan • Hebei • Heilongjiang • Henan • Hubei • Hunan • Jiangsu • Jiangxi • Jilin • Liaoning • Qinghai • Shaanxi • Shandong • Shanxi • Sichuan • Yunnan • Zhejiang |
| Taleithiau dinesig | Beijing • Chongqing • Shanghai • Tianjin |
| Rhanbarthau ymreolaethol | Guangxi • Mongolia Fewnol • Ningxia • Tibet • Xinjiang |
| Rhanbarthau Gweinyddol Arbennig | Hong Kong • Macau |