Málaga
Oddi ar Wicipedia
Dinas a phorthladd mawr yn Andalucía, de Sbaen yw Málaga. Mae'n gorwedd ar lan y Môr Canoldir ac yn denu miloedd o ymwelwyr.
Sefydlwyd Mâlaga gan y Ffeniciaid. Fe'i cipiwyd gan y Rhufeiniaid ac yn nes ymlaen gan y Visigothiaid a'r Mwriaid pan ddaeth yn un o ddinasoedd Al-Andalus. Cipiwyd y ddinas gan y Sbaenwyr yn 1487 fel un o gamrau olaf y Reconquista. Codwyd eglwys gadeiriol yno yn y ganrif olynol.
[golygu] Enwogion
- Pablo Picasso - ganed yr arlunydd enwog ym Malaga ar 25 Hydref, 1881.
[golygu] Dolenni allanol
Mae gan Gomin Wicifryngau gyfryngau sy'n berthnasol i:

