Osaka
Mae Osaka yn ddinas fawr yng Ngorllewin Japan (poblogaeth tua 2.6 miliwn), prifddinas talaith Osaka. Mae Osaka'n ail i Tokyo yn unig o ran ei phwysigrwydd economaidd ac yn drydedd yn y wlad ar ôl y brifddinas a Yokohama yn nhermau ei phoblogaeth. Mae'n ddinas fodern iawn, brysur a gweithgar, heb atyniadau hanesyddol arbennig.
Cynnwys |
[golygu] Hanes
Roedd Osaka yn borthladd fasnachol bwysig mor belled yn ôl â'r 7fed ganrif, ond ni ddatblygodd lawer tan y 16eg ganrif. Dyna bryd dewisodd Toyotomi Hideyoshi, oedd newydd uno'r wlad, Osaka fel safle i gastell strategaidd. Ymsefydlodd marsiandïwyr o gwmpas y castell newydd a thyfodd y ddinas yn gyflym i ddod yn ganolfan fasnach bwysig.
Er i glan y Toyotomi gael eu gorchfygu gan glan y Tokugawa yn gynnar yn y 17eg ganrif, mewn ymryson a welodd gastell Osaka yn cael eu llosgi'n ulw, ailadeiladwyd y castell gan y Tokugawa a pharhaodd y ddinas i ffynnu.
Ar 1 Medi 1956 daeth Osaka yn ddinas dynodedig.
Erbyn heddiw mae economi Osaka a'i rhanbarth yn fwy nag economi Awstralia ac mae rhai economegwyr wedi darogan y bydd Osaka ryw ddydd yn goddiweddu Tokyo fel deinamo economaidd y genedl.
[golygu] Adeiladau a chofadeiladau
- Amgueddfa Genedlaethol Celf
- Castell Osaka
- Expoland
- Neuadd Osaka-jō
- Osaka Aquarium Kaiyukan
- Shitennō-ji
- Sumiyoshi Taisha
[golygu] Enwogion
- Gomi Kosuke (1921-1980), nofelydd
- Lee Myung-bak (g. 1941), Arlywydd De Corea
- Ai Otsuka (g. 1982), cantores
- Kōki Kameda (g. 1986), paffiwr
[golygu] Gefeillddinasoedd a gefeillborthfeydd
|
Gefeillddinasoedd: |
Dinasoedd cyfeillgarwch a chydweithredu: |