Chicago
Oddi ar Wicipedia
Trydedd ddinas fwyaf Unol Daleithiau America yw Chicago, yn nhalaith Illinois ar lan Llyn Michigan. Mae "The Windy City" ("Y Ddinas Wyntog") yn llysenw poblogaidd ar y ddinas.
Cynhaliwyd "Eisteddfod Ffair y Byd" yno yn 1893. Un o'r cystadleuwyr a gafodd eu gwobrwyo oedd Erasmus Jones, Cymro o blwyf Llanddeiniolen a ymfudodd i fyw yn Utica, Efrog Newydd.