Erasmus Jones

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Llenor, awdur llyfrau hanes, a gweinidog ymneilltuol oedd Erasmus Jones (17 Rhagfyr 1817 - 9 Ionawr 1909). Ysgrifennodd sawl nofel â chefndir Cymreig a llyfrau ar hanes y Cymry yn yr Unol Daleithiau.

Ganed Erasmus Jones ym mhlwyf Llanddeiniolen, Arfon (Gwynedd), yn 1817. Yn 1833, yn ddyn ifanc 16 oed, ymfudodd i'r Unol Daleithiau i geisio gwella ei amgylchiadau, fel sawl Cymro tlawd arall yn y cyfnod yna. Daeth yn weinidog yn yr Eglwys Fethodistaidd Esgobol yn nhalaith Efrog Newydd cyn symud i fyw yn Utica, un o ganolfannau pwysicaf y Cymry alltud yn yr Unol Daleithiau (UDA).

Yn ogystal â sawl nofel yn y Saesneg, nad oes lawer o werth llenyddol iddynt, ysgrifennodd ddau lyfr ar hanes yr ymfudwyr Cymreig yn UDA, yn cynnwys hanes eu rhan yn y Gold Rush. Roedd yn eisteddfodwr brwd a enillodd wobrau yn "Eisteddfod Ffair y Byd" (Chicago, 1893), eisteddfod Pittsburgh, ac eraill.

Cynnwys

Llyfryddiaeth [golygu]

Nofelau [golygu]

  • The Captive Youths of Judah (1856)
  • The Adopted Son of the Princess (1870)
  • Llangobaith: a story of north Wales (1886)

Llyfrau hanes [golygu]

  • The Welsh in America (1876)
  • Gold, Tinsel and Trash (1890)

Cysylltiadau allanol [golygu]