Wisconsin
Oddi ar Wicipedia
|
|||||||||
| Prifddinas | Madison, Wisconsin | ||||||||
| Dinas fwyaf | Milwaukee | ||||||||
| Arwynebedd | Safle 23ain | ||||||||
| - Cyfanswm | 169,639 km² | ||||||||
| - Lled | 420 km | ||||||||
| - Hyd | 500 km | ||||||||
| - % dŵr | 17 | ||||||||
| - Lledred | 42° 37′ G i 47° 05′ G | ||||||||
| - Hydred | 86° 46′ Gor i 92° 53′ Gor | ||||||||
| Poblogaeth | Safle 20fed | ||||||||
| - Cyfanswm (2010) | 5,726,398 | ||||||||
| - Dwysedd | 40.6/km² (23fed) | ||||||||
| Uchder | |||||||||
| - Man uchaf | Timms Hill 595 m |
||||||||
| - Cymedr uchder | 320 m | ||||||||
| - Man isaf | 176 m | ||||||||
| Derbyn i'r Undeb | 29 Mai 1848 (fedfed) | ||||||||
| Llywodraethwr | Scott Walker | ||||||||
| Seneddwyr | Tammy Baldwin (D) Ron Johnson (R) |
||||||||
| Cylch amser | UTC -6/-5 | ||||||||
| Byrfoddau | WI Wis. US-WI | ||||||||
| Gwefan (yn Saesneg) | http://www.wisconsin.gov/state/ | ||||||||
Mae Wisconsin yn dalaith yng ngogledd canolbarth yr Unol Daleithiau, sy'n gorwedd rhwng Afon Mississippi i'r gorllewin, Llyn Michigan i'r dwyrain a Llyn Superior i'r gogledd. Mae Iseldiroedd y Canolbarth yn ildio i Ucheldir Superior yn y gogledd, sy'n rhan o Darian Canada ac yn cynnwys nifer o lynnoedd a choedwigoedd. Rhoddwyd Wisconsin i'r Unol Daleithiau gan Brydain Fawr yn 1783. Gwelwyd mewnlifiad mawr o'r dwyrain yn y 1820au. Daeth yn diriogaeth yn 1836 ac yna'n dalaith yn 1848. Madison yw'r brifddinas.
Dinasoedd [golygu]
Mae'r dinasoedd yn Wisconsin gyda phoblogaeth o 50,000 neu fwy (amcangyfrifiad Cyfrifiad 2005) yn cynnwys:
- Milwaukee, poblogaeth 578,887 (ardal fetroplitaidd 1,709,926), dinas fwyaf
- Madison, 221,551 (588,885), prifddinas y dalaith
- Green Bay, 101,203 (295,473)
- Kenosha, 95,240, rhan o ardal fetropolitaidd Chicago
- Racine, 85,855, rhan o ardal fetroplitaidd Milwaukee
- Appleton, 70,217 (213,102)
- Waukesha, 67,658, rhan o ardal fetropolitaidd Milwaukee
- Oshkosh, 63,485 (159,008)
- Eau Claire, 62,570 (148,337)
- Janesville, 61,962 (154,794)
- West Allis, 58,798, rhan o ardal fetropolitaidd Milwaukee
- Sheboygan, 50,792
- La Crosse, 50,287 (128,592)
Dolen allanol [golygu]
- (Saesneg) www.wisconsin.gov
|
|
|||||
|---|---|---|---|---|---|
|
|||||