Hessen
| Hessen | |
| Baner | |
|---|---|
| Lleoliad | |
| Daearyddiaeth | |
| Arwynebedd | 21 115 km² (7. yn yr Almaen) |
| Rhanbarth NUTS | DE7 |
| Demograffeg | |
| Poblogaeth — Cyfanswm — Dwysedd |
6 070 425 (5. yn yr Almaen) 287/km² |
| CMC | €198 biliwn |
| Llywodraeth | |
| Prifddinas | Wiesbaden |
| Gweinidog-Arlywydd | Volker Bouffier |
| Pleidiau gwleidyddol llywodraethol | Undeb Cristnogol Democrataidd (yr Almaen) |
| Pleidleisiau yn y Bundesrat | 5 (allan o 69) |
| Gwefan | |
Talaith yng ngorllewin canolbarth yr Almaen yw Hessen; ei phrifddinas yw Wiesbaden.
Cynnwys |
Hanes [golygu]
Roedd presenoldeb Celtaidd cynnar yn yr ardal a elwir heddiw'n Hessen. Mae tystiolaeth o hyn ar ffurff claddiadau o arddull La Tène sy'n dyddio o ganol y 5ed ganrif CC a ddarganfuwyd yn Glauberg. Anheddwyd y rhanbarth yn ddiweddarach gan lwyth Germanaidd yn Chatti tua'r ganrif 1af CC, ac mae'r enw Hessen yn barhad o enw'r llwyth. Yn y Canol Oesoedd cynnar, roedd gau Ffrancaidd yn cynnwys ardal o amgylch Fritzlar a Cassel ac un Sacsonaidd arall i'r gogledd a adnabuwyd fel Hessengau. Yn ystod y 9fed ganrif daeth Hessengau Sacsonaidd hefyd o dan reolaeth y Franconiaid, cyn cael ei drosglwyddo i Thüringen yn y 12fed ganrif.
Enillodd Hessen ei hannibyniaeth yn Rhyfel Olyniaeth Thuringiaid (1247–1264), a daeth yn Landgrafiaeth o fewn Yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Cododd yn fuan i bwysigrwydd sylfaenol o dan Landgraf Philip y Fawrfrydig, a oedd yn un o'r arweinwyr Almaeneg Protestannaidd. Ar ôl marwolaeth Philip ym 1567, rhannwyd y diriogaeth ymhlith ei bedwar mab o'i briodas gyntaf (roedd Philip yn figamydd) mewn llinellau: Hessen-Cassel, Hessen-Darmstadt, Hessen-Rheinfels a Hessen-Marbwrg. Bu farw'r ddwy linell ganlynol allan yn weddol fuan (1583 ac 1605), Hessen-Cassel a Hessen-Darmstadt oedd y ddwy diriogaeth graidd yn y tiroedd Hessiaidd. Rhannwyd llinellau cyfochrog sawl gwaith dros y canrifoedd, fel ym 1622, pan rannwyd Hessen-Hombwrg i ffwrdd o Hessen-Darmstadt. Mabwysiadodd Cassel Galfiniaeth yn yr 16eg ganrif, tra arhosodd Darmstadt gyda Lutheriaeth ac o ganlyniad, bu gwrthdaro rhwng y ddwy linell, yn arbennig yn yr anghydfod dros Hessen-Marbwrg ac yn y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain, pan ymladdodd Darmstadt ar ochr yr Ymerawdwr, tra ochrodd Cassel gyda Sweden a Ffrainc.
Cyflogwyd nifer o hurfilwyr o Hesse gan Brydain yn ystod y Chwyldro Americanaidd, i ymladd yn erbyn y gwrthryfelwyr yn America.
Cododd Hessen-Cassel i statws Etholaeth ym 1803, ond ni chafodd hyn unrhyw effaith gan y diddymwyd yr Ymerodraeth Lân Rufeinig ym 1806. Mae'r diriogaeth yn atodiad gan y Deyrnas Westphalia yn 1806, ond hadfer i'r etholwr ym 1813. Er Etholwyr eraill wedi ennill o deitlau eraill, gan ddod yn naill ai brenhinoedd neu Grand-Dukes, cadw etholwr o Hessen-Cassel yn unig y mae anachronistig urddas. Mae'r enw goroesi yn y tymor Kurhessen, sy'n dynodi ardal o amgylch Kassel. Yn 1866 roedd yn atodiad gan Brwsia, ynghyd â Dinas am ddim o Frankfurt, Hessen-Hombwrg a Dugiaeth o Nassau, a sefydlodd y dalaith Hessen-Nassau.
Codwyd Hessen-Darmstadt i statws Prif Ddugiaeth ym 1806. Ymladdodd y diriogaeth ar ochr Prwsia yn erbyn Awstria yn Rhyfel 1866, o gadwodd ei annibyniaeth er iddynt gael eu gorchfygu, gan fod rhan fwyaf o'r wlad wedi ei leoli i'r de o Afon Fain, a ni feiddiodd Prwsia geisio ehangu y tu hwnt i'r ffin yr afon hon, rhag ofn cythruddo Ffrainc. Ond, cafodd y rhannau o Hessen-Darmstadt i'r gogledd o'r afon (yr ardal o amgylch tref Gießen, a elwir yn aml yn Oberhessen) eu cynnwys yn y Norddeutscher Bund, sef ffederasiwn o wladwriaethau'r Almaen, a sefydlwyd gan Brwsia ym 1867. Ymunodd gweddill y Brif Ddugiaeth ag Ymerodraeth yr Almaen ym 1871. Roedd Darmstadt yn un o ganolfannau'r Jugendstil o gwmpas troad y ganrif.
Hyd 1907, llewod Hessian coch a gwyn yn unig a ddefnyddiodd Hesse ar ei arfbais.
Trawsnewidiwyd Hessen-Darmstadt o frenhiniaeth i weriniaeth yn ystod chwyldro 1918, ac ailenwyd yn swyddogol yn Volksstaat Hessen (Talaith Pobl Hesse). Meddiannwyd rhannau o Hesse-Darmstadt ar lan orllewinol y Rhein (talaith Rheinhessen) gan filwyr Ffrengig hyd 1930, o dan delerau cytundeb heddwch Versailles y Rhyfel Byd Cyntaf, a ddaeth i ben yn swyddogol ym 1919.
Meddiannwyd yr ardal i'r gorllewin o'r Rhein unwaith eto gan Ffrainc ar ôl yr Ail Ryfel Byd, tra bu gweddill y wlad yn rhan o ardal a feddiannwyd gan yr Unol Daleithiau. Gwahanodd y Ffrancod eu rhan hwy o Hessen oddi wrth weddill y wlad, a'i ymgorffori'n rhan o dalaith newydd Rheinland-Pfalz. Dros yr afon, crëwyd talaith Groß-Hessen o weddill y rhanbarth gan yr Unol Daleithiau, ar 19 Medi 1945, a chynhwyswyd y rhan fwyaf o'r hen dalaith Brwsiaidd Hessen-Nassau. Ar 4 Rhagfyr 1946 ail-enwyd Groß-Hessen yn swyddogol yn Hessen.
Daearyddiaeth [golygu]
Mae Hessen yn ffinio â thaleithiau Nordrhein-Westfalen, Niedersachsen, Thüringen, Bafaria, Baden-Württemberg a Rheinland-Pfalz. Ymysg ei dinasoedd mwyaf mae Frankfurt am Main, Wiesbaden, Darmstadt, Offenbach, Gießen, Wetzlar, Fulda, Kassel a Marburg.
Y prif afonydd yn y gogledd yw'r Afon Fulda ac Afon Lahn. Mae ganddi dirwedd fryniog; y prif fynyddoedd yw'r Rhön, y Westerwald, y Taunus, y Vogelsberg a'r Spessart.
Trigai'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn rhan ddeheuol y dalaith, rhwng Afon Main ac Afon Rhein (sy'n ffurfio'r ffin i'r de-orllewin). Safai'r mynyddoedd Odenwald rhwng afonydd Main a Rhein.
Dinasoedd a Rhanbarthau [golygu]
Mae 21 rhanbarthau yn Hessen.
|
Dinasoedd heb rhanbarth:
- Darmstadt (DA)
- Frankfurt am Main (F)
- Kassel (KS)
- Offenbach am Main (OF)
- Wiesbaden (WI)
Dolenni allanol [golygu]
| Taleithiau ffederal yr Almaen | |
|---|---|
| Baden-Württemberg | Bafaria | Berlin | Brandenburg | Bremen | Hamburg | Hessen | Mecklenburg-Vorpommern | Niedersachsen | Nordrhein-Westfalen | Rheinland-Pfalz | Saarland | Sachsen | Sachsen-Anhalt | Schleswig-Holstein | Thüringen | |