Pennsylvania

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Commonwealth of Pennsylvania
Cymanwlad Pennsylvania
Baner Pennsylvania Sêl Talaith Pennsylvania
Baner Pennsylvania Sêl Pennsylvania
Llysenw/Llysenwau: Keystone State; Quaker State;
Coal State; Oil State
Map o'r Unol Daleithiau gyda Pennsylvania wedi ei amlygu
Prifddinas Harrisburg
Dinas fwyaf Philadelphia
Arwynebedd  Safle 33ain
 - Cyfanswm 119,283 km²
 - Lled 255 km
 - Hyd 280 km
 - % dŵr 2.7
 - Lledred 39°43'G i 42°G
 - Hydred 74°43'Gor i 80°31'Gor
Poblogaeth  Safle 6ed
 - Cyfanswm (2010) 12,702,379
 - Dwysedd 23.86/km² (31ain)
Uchder  
 - Man uchaf Mynydd Davis
979 m
 - Cymedr uchder 335 m
 - Man isaf 0 m
Derbyn i'r Undeb  12 Rhagfyr 1787 (2il)
Llywodraethwr Tom Corbett
Seneddwyr Bob Casey, Jr. (D)
Pat Toomey (R)
Cylch amser UTC -5/-4
Byrfoddau PA
Gwefan (yn Saesneg) www.state.pa.us

Mae Pennsylvania (hefyd yn Gymraeg Pensylfania)[1] yn un o daleithiau Unol Daleithiau America. Ei llysenw yw'r Dalaith Maen Clo a'i henw swyddogol yw Cymanwlad Pennsylvania. Y ddwy ddinas fwyaf yw Philadelphia a Phittsburgh.

Gwladychwyd tiroedd eang i'r gogledd a'r gorllewin o Philadelphia gan Grynwyr o Gymru yn yr 17eg ganrif, ac mae'n debyg y symbylwyd y gwladychiad gan y dyhead i gael rhyddid i addoli yn ôl eu credo. Mae'r nofel gan Marion Eames Y Rhandir Mwyn wedi ei seilio ar hanes y gwladychiad hwn.

Erbyn 1700, roedd un traean (33%) o'r dalaith yn Gymry. Ceir llawer o enwau lleoedd Cymraeg a Chymreig yma hyd heddiw - sy'n dyst i'r gwladychu hwn. Yn niwedd y ddeunawfed ganrif cafwyd ail don o wladychu, wedi'i arwain gan Morgan John Rhys o'r enw Cambria ac a elwir heddiw Tir Cambria (Cambria Country). Erbyn Cyfrifiad 2003-6 dim ond 1.5 oedd yn galw'u hunain 'o darddiad Cymreig'.[2]

Ar fur dwyreiniol Neuadd y Dref yn Philadelphia, er enghraifft, ceir plac sy'n cynnwys y geiriad hwn:

Perpetuating the Welsh heritage, and commemorating the vision and virtue of the following Welsh patriots in the founding of the City, Commonwealth, and Nation: William Penn, 1644-1718, proclaimed freedom of religion and planned New Wales later named Pennsylvania. Thomas Jefferson, 1743-1826, third President of the United States, composed the Declaration of Independence. Robert Morris, 1734-1806, foremost financier of the American Revolution and signer of the Declaration of Independence. Governor Morris, 1752-1816, wrote the final draft of the Constitution of the United States. John Marshall, 1755-1835, Chief Justice of the United States and father of American constitutional law.

Ceir ffiniau taleithiau: Delaware i'r de-ddwyrain, Maryland i'r de, Gorllewin Virginia i'r de-orllewin, Ohio i'r gorllewin, Llyn Erie ac Ontario, Canada i'r gogledd-orllewin, Efrog Newydd i'r gogledd a New Jersey i'r dwyrain. Asgwrn cefn y dalaith yw Mynyddoedd yr Appalachian sy'n gorwedd yng nghanol y dalaith, o'r gogledd i'r de.

Dinasoedd, trefi a'u poblogaeth[golygu]

Siroedd y Dalaith
Y dinasoedd mwyaf poblog yn Nhalaith Pennsylvania
Dinas Poblogaeth
Philadelphia
1,547,607
Pittsburgh
306,211
Allentown
118,974
Erie
101,047
Reading
88,102
Scranton
75,809
Bethlehem
75,103
Lancaster
59,360
Levittown
52,700
Harrisburg
49,279

Galeri o enwau llefydd Cymraeg a Chymreig[golygu]

Narberth, Pennsylvania[golygu]

Merion, Pennsylvania[golygu]

Philadelphia[golygu]

Golygfeydd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Geiriadur yr Academi, [Pennsylvania].
  2. American FactFinder, United States Census Bureau. "American Community Survey 3-Year Estimates". Factfinder.census.gov. http://factfinder2.census.gov/bkmk/table/1.0/en/ACS/08_3YR/DP3YR2/0400000US42. Adalwyd 31 Gorffennaf 2010. 

Dolenni allanol[golygu]



 
Taleithiau'r Unol Daleithiau
Flag of the United States.svg
Taleithiau Alabama | Alaska | Arizona | Arkansas | Califfornia | Colorado | Connecticut | De Carolina | De Dakota | Delaware | Efrog Newydd | Fflorida | Georgia | Gogledd Carolina | Gogledd Dakota | Gorllewin Virginia | Hawaii | Idaho | Illinois | Indiana | Iowa | Kansas | Kentucky | Louisiana | Maine | Maryland | Massachusetts | Michigan | Minnesota | Mississippi | Missouri | Montana | Nebraska | Nevada | New Hampshire | New Jersey | New Mexico | Ohio | Oklahoma | Oregon | Pennsylvania | Rhode Island | Tennessee | Texas | Utah | Vermont | Virginia | Washington | Wisconsin | Wyoming
Ardal ffederal Ardal Columbia