Washington (talaith)
|
|||||||||
| Prifddinas | Olympia | ||||||||
| Dinas fwyaf | Seattle | ||||||||
| Arwynebedd | Safle 18fed | ||||||||
| - Cyfanswm | 184,827 km² | ||||||||
| - Lled | 400 km | ||||||||
| - Hyd | 580 km | ||||||||
| - % dŵr | 6.6 | ||||||||
| - Lledred | 45°33'G i 49°G | ||||||||
| - Hydred | 116°55'G i 124°46'G | ||||||||
| Poblogaeth | Safle 13eg | ||||||||
| - Cyfanswm (2010) | {{{poblogaeth 2010}}} | ||||||||
| - Dwysedd | {{{dwysedd 2000}}}/km² (8fed) | ||||||||
| Uchder | |||||||||
| - Man uchaf | Mount Rainier 4,394 m |
||||||||
| - Cymedr uchder | 520 m | ||||||||
| - Man isaf | 0 m | ||||||||
| Derbyn i'r Undeb | 11 Tachwedd 1889 (42ain) | ||||||||
| Llywodraethwr | Christine Gregoire | ||||||||
| Seneddwyr | Patty Murray a Maria Cantwell |
||||||||
| Cylch amser | UTC -8/-7 | ||||||||
| Byrfoddau | FL | ||||||||
| Gwefan (yn Saesneg) | access.wa.gov/ | ||||||||
Mae Washington yn dalaith yng ngogledd-orllewin eithaf yr Unol Daleithiau, sy'n gorwedd ar lan y Cefnfor Tawel ac yn ffinio â Chanada i'r gogledd. Amgylchinir y dalaith gan fynyddoedd uchel, ac mae ei chopaon yn cynnwys Mynydd St Helens. Yn y canolbarth ceir Basn Columbia gyda Afon Columbia ac Afon Snake yn llifo trwyddo. Yn yr iseldiroedd o gwmpas Swnt Puget yn y gorllewin y lleolir y rhan fwyaf o boblogaeth y dalaith.
Hanes [golygu]
Roedd Washington yn rhan o ardal fasnach Cwmni Bae Hudson tan y 1840au, ond ni chafwyd llawer o ymsefydlwyr gwyn yno. Un o'r llwythau brodorol oedd y Nez Perces, a ymladdasant ryfel byr ond enwog i geisio cadw eu hannibyniaeth dan eu harweinydd carismatig Y Pennaeth Ioseff. Yn 1846 cytunwyd ar y ffin rhwng Canada a'r diriogaeth. Daeth yn dalaith yn 1889, wedi'i henwi ar ôl George Washington. Olympia yw'r brifddinas.
Dinasoedd Washington [golygu]
| 1 | Seattle | 608,660 |
| 2 | Spokane | 208,916 |
| 3 | Tacoma | 198,397 |
| 4 | Vancouver | 161,791 |
| 5 | Bellevue | 122,363 |
| 6 | Olympia | 46,478 |
Dolenni allanol [golygu]
- Gwefan swyddogol (Saesneg)
|
|
|||||
|---|---|---|---|---|---|
|
|||||
