Afon Columbia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
ColumbiaLB03.jpg
Pont dros yr afon yn Kennewick
ColumbiaLB02.jpg
ColumbiaLB01.jpg

Mae basn Afon Columbia yn 259,000 o filltiroedd sgwâr, yn cynnwys rhannau'r taleithiau Oregon, Washington, Idaho, Montana, Nevada, Wyoming a Utah ac yn estyn ar draws y ffin i Ganada. Mae'n llifo dros 1,200 o filltiroedd o Golumbia Brydeinig ac yn cyrraedd y Cefnfor Tawel rhwng Astoria, Oregon ac Ilwaco, Washington[1].

Tarddiad yr Afon yw Llyn Columbia yng Ngholumbia Brydeinig[2], 2,650 troedfedd uwchben y môr. Mae'r afon yn llifo i'r gogledd am 200 milltir cyn iddi droi i'r De ac yn croesi'r ffin i'r Unol Daleithau. Mae'n uno efo Afon Snake ar ôl y tair dinas Pasco, Kennewick a Richland. Wedyn mae'r afon yn llifo i'r gorllewin i'w aber. Mae'r afon yn fwy dwfn rhwng Ebrill a Medi, oherwydd dŵr tawdd[3].

Mae gan yr afon 10 prif is-afon, Kootenay, Okanagan, Wenatchee, Spokane, Yakima, Snake, Deschutes, Willamette, Cowlitz a Lewis. Mae'r afon yn mynd trwy Mynyddoedd Cascades, cyn cyrraedd y cefnfor, yn creu Dyfnaint Columbia. Mae 11 argae ar yr afon, a mwy 'na 400 dros y basn i gyd, yn creu mwy 'na 21 miliwn cilowat. Yr un cyntaf yw Argae Ynys Rock. Ychwanegwyd Argae Bonneville ym 1938 ac Argae Grand Coulee ym 1941.

Roedd pysgota'n bwysig i'r ardal rhwng 1860 a 1960, ond oherwydd argaeau, pysgota yn y cefnfor a dirywiaeth i gynefin, mae niferoedd pysgod wedi gostwng yn sylweddol. Mae deorfeydd wedi dod yn bwysig.

Oherwydd sianel 40 troedfedd o ddyfnder ar hyd yr afon is, a llynnau newydd yn uwch, gall llongau gyrraedd Portland, Oregon ac mae cychod camlas mawr yn gyffredin ar yr afon.

Mae dyfrhad wedi bod yn bwysig ers y 1920au ac wedi bod yn bwysicach byth ers adaeladu'r argaeau mawrion. Sefydlwyd Prosiect y Basn Columbia ym 1948; mae gorsafoedd pwmpio a rhwydwaith o gamlesi yn cludo dŵr i fwy 'na 600 mil o aceri o dir yn Dalaith Washington. Mae cnydau'n cynnwys alfalfa, taten, mintys, betys, fa, ffrwyth a grawnwin. Dechreuodd twristiaeth cyn gynted a'r 1920au gyda theithiau cychod ar yr afon, a physgota. Erbyn y 1980au, roedd bordhwylio ayn boblogaidd. Daeth Dyfnaint yn ardal hyfrydwch genedlaethol ym 1986 [4]. Enw brodorol yr afon yw N'chi a wana[5],.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae pobl wedi byw ar lannau'r afon ers mwy 'na 10,000 o flynyddoedd. Ar y dechrau, roeddent yn gymdeithas hela, pysgota a chasglu. Roedd tai hir ar lannau'r darn isaf yr afon. Mewn ardaloedd eraill, buasai pobl yn symud yn dymhorol. Roedd pysgota'n bwysig iawn, ac y lle prysuach oedd Rhaeadr Celio. Ymddangosodd yr afon ar fapiau yn ystod yr 17eg ganrif gyda'r enw ' River of the West' ar ôl ei darganfyddiad gan Martin de Auguilar. Tybiwyd bod hi'n arwain at Dramwyfa'r Gogledd-Orllewin. Enwyd yr afon 'Ouragon' gan Robert Rogers ym 1765, ac wedyn 'Oregon' ym 1778. Aeth William Broughton dros 100 milltir i fyny'r afon ym mis Hydref 1792, a chreodd map cyntaf y rhan hon o'r afon. Daeth Meriwether Lewis a William Clark i lawr yr afon rhwng 1805-6, a chrëwyd y map cyflawn cyntaf o'r afon gan David Thompson rhwng 1811-12. Ar ôl Rhyfel 1812, rhannwyd basn y Columbia rhwng yr Unol Daleithiau a Phrydain.

Cymerodd Cwmni Bae Hudson lle blaenllaw yn yr ardal, a sefydlwyd pencadlys yn Fort Vancouver ym 1825. Cludwyd crwyn o'r fan yno i Brydain. Daeth Americanwyr i'r ardal ar Llwybr Oregon|lwybr Oregon]] yn yr 1840au a daeth Oregon i'r de o'r 49ain cydrediad lledredol yn rhan o'r Unol Daleithiau. Adeiladwyd Lociau Cascades ym 1896 a Lociau Celilo-Y Dalles ym 1915 [6].

ColumbiaLB05.jpg

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]