Mintys ysbigog
Oddi ar Wicipedia
| Dosbarthiad gwyddonol | ||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
||||||||||||
| Rhywogaethau | ||||||||||||
|
tua 25, gan gynnwys: |
Planhigyn blodeuol a pherlysieuyn ydy'r mintys ysbigog (Lladin: Mentha spicata) a ddefnyddir i roi blas ar fwyd, diodydd a hyd yn oed bast dannedd. Mae rhwng 30 a 100 cm o daldra ac yn hoff iawn o bridd gwlyb. Mae'r dail rhwng 5 a 9 cm ac (fel y coesyn) yn eitha blewog ac ymylon daneddog.
Cynnwys |
[golygu] Rhinweddau meddygol
Fe'u tyfir yn draddodiadol er mwyn gwella dolur y gwynt ac igian.[1] Gellir ei ddefnyddio'n allanol hefyd mewn pwltis ar clwy'r marchogion neu friwiau ar y croen.[2]
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982. Defnyddio'r dail i wneud paned i wella'r cyntaf a cnoi'r dail amrwd i wella pwl o igian.
- ↑ Gwefan 'Plants for a Future'
[golygu] Gweler hefyd
[golygu] Dolennau allanol
[1] Prifysgol Aberystwyth: Sut i adnabod planhigyn?
