Planhigyn blodeuol
| Planhigion blodeuol | |
|---|---|
| Blodyn magnolia | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Rhaniad: | Magnoliophyta Cronquist, Takht. & W.Zimm., 1966 |
| Dosbarthiadau (system Cronquist) | |
|
Magnoliopsida (deugotyledonau) |
|
| Prif grwpiau (system APG III) | |
|
Amborellales |
|
| Cyfystyron | |
|
Angiospermae |
|
Grŵp mawr o blanhigion yw'r planhigion blodeuol neu planhigion blodeuog (hefyd angiosbermau). Maent yn cynnwys tua 254,000 o rywogaethau ledled y byd, mwy nag unrhyw grŵp arall o blanhigion tir.[1] Maent yn cynhyrchu blodau sy'n cael eu peillio gan bryfed neu'r gwynt gan amlaf. Mae hadau planhigion blodeuol yn eu ffrwythau, a'u hofwlau mewn carpelau. Ymddangosodd y planhigion blodeuol cyntaf tua 140 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn ystod y cyfnod Cretasaidd.[2]
Rhennir y planhigion blodeuol yn ddau grŵp yn draddodiadol: y deugotyledonau a'r monocotyledonau. Mae astudiaethau diweddar yn awgrymu hollti'r deugotyledonau yn sawl grŵp megis yr ewdicotau a'r magnoliidau.[2]
Gweler hefyd [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Palmer, Jeffrey D.; Douglas E. Soltis & Mark W. Chase (2004) The plant tree of life: an overview and some points of view, American Journal of Botany, 91 (10): 1437–1445.
- ↑ 2.0 2.1 Hennessey, Kathryn & Victoria Wiggins, goln. (2010) The Natural History Book, Dorling Kindersley, Llundain.