Oddi ar Wicipedia
Planhigion blodeuol â dwy had-ddeilen yw'r deugotyledonau (hefyd: dicotyledonau). Maent yn cynnwys tua 200,000 o rywogaethau. Fe'u dosberthir yn y dosbarth Magnoliopsida (neu Dicotyledones) yn draddodiadol, ond mae astudiaethau eu DNA yn dangos bod nhw'n ffurfio sawl grŵp gwahanol; yr "ewdicotau" yw'r grŵp mwyaf ac maent yn cynnwys y rhan fwyaf o'r deugotyledonau.
Mae dosbarthiad y deugotyledonau yn amrywio. Mae'r rhestr isod yn dilyn yr Angiosperm Phylogeny Group.[1] Mae dosbarthiad cywir nifer o deuluoedd yn ansicr.
| Urdd |
Enghreifftiau |
| Teulu Amborellaceae |
| Teulu Chloranthaceae |
| Teulu Nymphaeaceae |
lili'r dŵr |
| Austrobaileyales |
coeden anis |
| Ceratophyllales |
cyrnddail |
| "Magnoliaid" |
| Canellales |
| Laurales |
llawrwydden |
| Magnoliales |
magnolia, nytmeg, afal cwstard |
| Piperales |
pupur, esgorlys |
| "Ewdicotau" |
| Teulu Buxaceae |
pren bocs |
| Teulu Sabiaceae |
| Teulu Trochodendraceae |
| Proteales |
protea, planwydden, lotws |
| Ranunculales |
blodyn ymenyn, pabi |
| "Ewdicotau craidd" |
| Teulu Aextoxicaceae |
| Teulu Berberidopsidaceae |
| Teulu Dilleniaceae |
| Gunnerales |
| Caryophyllales |
carnasiwn, cactws, ffigysen yr Hotentot |
| Santalales |
uchelwydd |
| Saxifragales |
tormaen, eirinen Fair, briweg, rhosyn y mynydd |
| "Rosiaid" |
| Teulu Aphloiaceae |
| Teulu Geissolomataceae |
| Teulu Ixerbaceae |
| Teulu Picramniaceae |
| Teulu Strasburgeriaceae |
| Teulu Vitaceae |
gwinwydden |
| Crossosomatales |
| Geraniales |
pig yr aran, mynawyd y bugail |
| Myrtales |
myrtwydden, llysiau'r milwr, melyn yr hwyr, grawnafal |
| "Ewrosiaid I" |
| Teulu Zygophyllaceae |
| Teulu Huaceae |
| Celastrales |
brial y gors |
| Cucurbitales |
cucumer, melon, pwmpen |
| Fabales |
ffeuen, pysen, meillionen, pysgneuen |
| Fagales |
ffawydden, derwen, bedwen |
| Malpighiales |
llaethlys, eurinllys, llin, mangrof, helygen, fioled |
| Oxalidales |
suran y coed |
| Rosales |
rhosyn, afal, llwyfen, danhadlen, cywarch |
| "Ewrosiaid II" |
| Teulu Tapisciaceae |
| Brassicales |
bresychen, mwstard, rêp |
| Malvales |
hocysen, pisgwydden, cotwm, cor-rosyn |
| Sapindales |
oren, lemon, mahogani |
| "Asteriaid" |
| Cornales |
cwyrosyn |
| Ericales |
grug, rhododendron, ffrwyth ciwi, te, briallen |
| "Ewasteriaid II" |
| Teulu Boraginaceae |
cyfardwf, sgorpionllys |
| Teulu Icacinaceae |
| Teulu Oncothecaceae |
| Teulu Vahliaceae |
| Garryales |
| Gentianales |
crwynllys, coffi |
| Lamiales |
mintys, marddanhadlen, lafant, bysedd y cŵn, olewydden |
| "Ewasteriaid II" |
| Solanales |
codwarth, tomato, taten, planhigyn ŵy, taglys |
| Teulu Bruniaceae |
| Teulu Columelliaceae |
| Teulu Eremosynaceae |
| Teulu Escalloniaceae |
esgalonia |
| Teulu Paracryphiaceae |
| Teulu Polyosmaceae |
| Teulu Sphenostemonaceae |
| Teulu Tribelaceae |
| Aquifoliales |
celynnen |
| Apiales |
moronen, persli |
| Asterales |
blodyn Mihangel, llygad y dydd, letysen, dant-y-llew |
| Dipsacales |
cribau'r pannwr, gwyddfid |
- ↑ The Angiosperm Phylogeny Group (2003) "An update of the Angiosperm Phylogeny Group classification for the orders and families of flowering plants: APG II" Botanical Journal of the Linnean Society 141 (4), 399–436.
| Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: Magnoliaid, Ewdicotau, Rosiaid, Asteriaid, Ewrosiaid, Ewasteriaid o'r Saesneg "Magnoliids, Eudicots, Rosids, Asterids, Eurosids, Euasterids". Gallwch helpu trwy safoni'r termau. |