Uchelwydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Uchelwydd (Viscum album) yn tyfu ar Fedwen Arian

Uchelwydd yw'r enw cyffredin am grŵp o blanhigion lled-barasitig sy'n tyfu ar goeden neu brysgwydd. Esblygodd barasitiaeth naw gwaith yn unig ym myd planhigion; o'r naw hynny, mae'r uchelwydd parasitig wedi esblygu'n annibynnol pum gwaith: Misodendraceae, Loranthaceae, Santalaceae (a ystyriwyd yn flaenorol o deulu gwahanol yr Eremolepidaceae), a Santalaceae (a arferai gael ei ystyried fel rhan o deulu'r Viscaceae).

Mae uchelwydd yn blanhigyn gwenwynig sy'n achosi problemau gastro-berfeddol difrifol gan gynnwys poen yn y stumog a dolur rhydd ynghyd a phwls isel.

Traddodiadau[golygu]

Yn ôl traddodiadau Nadoligaidd, pan fo dau berson yn cwrdd o dan ddarn o uchelwydd, disgwylir iddynt gusanu. Daw'r traddodiad hwn o Lychlyn yn wreiddiol. Yn hanes Llychlyn, roedd yn blanhigyn a gynrychiolai heddwch. Pe digwydd i elynion gyfarfod o dan uchelwydd mewn coedwig, byddent yn rhoi'u harfau o'r neilltu a chynnal cadoediad tan y diwrnod nesaf. Arweiniodd yr arfer hwn i'r traddodiad o gusanu o dan yr uchelwydd.

Cysylltir yr uchelwydd â defodau'r Derwyddon. Yn ôl Plinius yr Hynaf (23-79 OC) yn ei lyfr Hanes Naturiol y ceir y cyfeiriad cynharaf ar ran y dderwen a'r uchelwydd yn nefodau'r derwyddon:

Y mae'r derwyddon yn meddwl bod popeth sy'n tyfu arni (y dderwen) wedi ei anfon o'r nefoedd... Dyw'r uchelwydd ddim i'w gael yn aml ar y dderwen, a phan geir ef y mae'n cael ei hel gyda defodaeth grefyddol arbennig, os yn bosibl ar chweched dydd y lleuad... Maent yn galw'r uchelwydd wrth enw sy'n golygu, yn eu hiaith hwy, "gwella popeth". Ar ôl paratoi ar gyfer aberth a gwledd o dan y coed, y maent yn dod â dau darw yno ac yn clymu eu cyrn ynghyd am y tro cyntaf. Mae'r offeiriad, wedi ei wisgo mewn gwyn, yn dringo'r goeden ac yn torri'r uchelwydd â chryman aur, ac fe'i delir gan eraill mewn clogwyn gwyn. Yna y maent yn lladd yr ebyrth, gan weddïo ar dduw i fendithio'r rhodd... Maent yn credu bod yr uchelwydd, o'i gymryd mewn diod, yn rhoi ffrwythlondeb i anifeiliaid diffrwyth ac yn gwrthweithio pob gwenwyn.[1]

Images[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Hanes Naturiol XVI.249, dyfynwyd gan Gwyn Thomas yn Duwiau'r Celtiaid (Gwasg Carreg Gwalch, 1992).
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am uchelwydd
yn Wiciadur.