Ffïon
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Bysedd y cŵn)
| Digitalis purpurea | |
|---|---|
| Digitalis purpurea (Ffïon) | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
| Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
| Urdd: | Lamiales |
| Teulu: | Plantaginaceae |
| Genws: | Digitalis |
| Rhywogaeth: | D. purpurea |
| Enw deuenwol | |
| Digitalis purpurea L. |
|
Planhigyn blodeuol sy'n gynhenid yn y rhan fwyaf o Ewrop yw Ffïon, Bys Coch, Gwniadur Mair, Menyg Ellyllod, Y Gleci Goch neu Fysedd y Cŵn (Lladin: Digitalis purpurea yw'r mwyaf cyffredin.)
Mae iddo gorsen dal, gyda chylch o ddail o amgylch y bôn. Fel rheol, dwy flynedd yw hyd oes Ffïon. Mae'r dail tua 10-35 cm o hir; mae ganddyn coesau hirion, a thoreth o flew mân ar eu gwaelodion. Gan amlaf mae lliw porffor golau neu binc gan y blodau, sydd â'u pennau i lawr, a smotiau ar y tu fewn, ond mae rhai melyn a gwyn iw cael yn ogystal.
Gwenwyn [golygu]
Mae dail, blodau, a hadau Ffïon yn wenwynig oherwydd presenoldeb sylwedd digitoxin ynddynt. Gall ladd pobl a rhai anifeiliaid os cânt eu bwyta.
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: